Mae Aelodaeth Gyswllt yn agored i fudiadau proffesiynol yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector theatr neu ddawns mewn swyddogaeth ategol neu strategol sydd hefyd yn gallu ategu cenhadaeth Creu Cymru, ond nad cynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio yw eu prif bwrpas.
Mae aelodaeth yn cael ei chadw yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod.
Mae hyn yn cynnwys sefydliadau y tu allan i’r sector creadigol sy’n dymuno ymgysylltu â’r rhai sydd yn y sector.
Ffi: £315 y flwyddyn a TAW.
Cliciwch yma am ffurflen gais
Pam bod yn aelod:
Fel aelod o Creu Cymru byddwch yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ac unigolion celfyddydau perfformio proffesiynol ledled Cymru.
Yn ogystal â helpu i drawsnewid y sector celfyddydau perfformio yng Nghymru, mae bod yn aelod yn cynnig:
Mynediad at sgiliau, gwybodaeth a’r hyder i wella ymarfer ac eiriolaeth yr unigolyn a’r sefydliad.
- Mynediad at sgiliau, gwybodaeth a'r hyder i wella ymarfer ac eiriolaeth yr unigolyn a'r sefydliad
- Cysylltiadau cryf o fewn rhwydwaith cenedlaethol.
- Mynediad uniongyrchol at raglennwyr a chyfleoedd i raglennu.
- Cefnogaeth gan awdurdod sy’n cael ei barchu a’i werthfawrogi, gyda sylfaen wybodaeth gadarn a gwybodus yn y sector celfyddydau perfformio.
- Y gallu i ddylanwadu ar y dylanwadwyr.
Yr hyn y gallwn ei gynnig:
Cynhadledd Flynyddol* yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau panel, rhwydweithio a chyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd
Gall unrhyw staff yn eich sefydliad gymryd rhan yn ein digwyddiadau / cyfleoedd
Hyfforddiant o ansawdd uchel gyda lefel uchel o gymhorthdal ariannol
Cyfleoedd i rwydweithio
Cynrychiolaeth i Gymru ledled y DU
Symposiwm hynt
Ymweliadau a Bwrsarïau wedi’u curadu
Cyngor gan ein staff
Mynediad at arbenigwyr
Cydweithio a dysgu ar y cyd
Cyfleoedd i hyrwyddo eich gwaith a swyddi gwag
Hynt – hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol ac yn un o fentrau CCC a reolir gan Creu Cymru ar eu rhan. Mae dros 30,000 o aelodau hynt bellach wedi ymuno â’r cynllun ar draws Cymru.