Fforwm Mynediad
dydd Mawrth, 28 Ionawr 13:00–14:00
Ar-lein
Gwybodaeth am y digwyddiad
Bydd Andrew Miller, Pencampwr Mynediad i’r Celfyddydau yn y DU, yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am All In, y cynllun newydd i fynd i’r afael â mynediad pobl B/byddar, anabl a niwroamrywiol i’r celfyddydau yn y DU ac Iwerddon. Roedd All In wedi cyfrannu at y Symposiwm Hynt diwethaf, ond ym mis Ionawr bydd Andrew yn gallu siarad am eu cynllun peilot, y lansiad a’r hyn mae’r cyfan yn ei olygu i ni yng Nghymru.
Cysylltwch â Megan ar megan@creucymru.com i gael y ddolen Zoom, neu cadwch lygad am y wybodaeth yn ein cylchlythyr misol.
.