Cwestiynau cyffredin am aelodaeth
-
Beth yw Creu Cymru?
-
Mae Creu Cymru yn cefnogi sector bywiog Cymru o gwmnïau a theatrau celfyddydau perfformio, gan gysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau.
Mae Creu Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau perfformio mwy cynhwysol yng Nghymru ac i ddatgloi potensial cyflwynwyr a chrewyr celfyddydau perfformio i drawsnewid ac ehangu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ledled Cymru.Rydym yn canolbwyntio ar y materion hyn:
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Eiriolaeth, ymchwil, ac effaith
Datblygu’r gweithlu, gwaith teg a llesiant
Datblygu cynulleidfa a chysylltu â’r gymuned
Arddangos a dathlu
Yr amgylchedd a chynaliadwyedd - Ein lleoliad
-
Mae’r Cyfarwyddwr wedi ei leoli yng Nghaerdydd, mae’r Gweinyddwr wedi ei leoli yn Aberystwyth ac mae’r Gweinyddwr Prosiectau wedi ei leoli yn y Barri. Prif gyfeiriad y swyddfa yw Creu Cymru, Blwch Post 242, Aberystwyth, Ceredigion SY23 9AX.
- Pwy ydyn ni?
-
Cyfarwyddwr: Louise Miles-Payne
Gweinyddwr: Yvonne O’Donovan
Gweinyddwr Prosiectau: Megan Merrett - Pwy all ymuno?
-
Mae modd i unrhyw unigolyn neu sefydliad proffesiynol yng Nghymru fod yn aelod os mai ei brif bwrpas yw cynhyrchu, cyflwyno neu guradu’r celfyddydau perfformio.
Llawn
Mae Aelodaeth Lawn yn agored i unrhyw fudiad proffesiynol yng Nghymru sydd â’r prif bwrpas o gynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio. Mae aelodaeth yn cael ei chadw yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod.
Ffi: 0.1% o drosiant ar gyfer y flwyddyn 2019/20 gydag isafswm taliad o £450 i uchafswm o £2,500 y flwyddyn a TAW.
Unigolyn
Mae Aelodaeth Unigol yn agored i unrhyw weithiwr celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru. Byddwch hefyd yn derbyn ein cylchlythyr a mynediad at yr adran aelodau yn unig ar ein gwefan a’n grŵp Facebook caeedig.
Ffi: £50 y flwyddyn a TAW.
Aelodaeth Gyswllt (Cyflwynwyd yn 2022)
Mae Aelodaeth Gyswllt yn agored i fudiadau proffesiynol yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector theatr neu ddawns mewn swyddogaeth ategol neu strategol sydd hefyd yn gallu ategu cenhadaeth Creu Cymru, ond nad cynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio yw eu prif bwrpas. Mae aelodaeth yn cael ei chadw yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod.
Mae hyn yn cynnwys sefydliadau y tu allan i’r sector creadigol sy’n dymuno ymgysylltu â’r rhai sydd yn y sector.
Ffi: £300 y flwyddyn a TAW.
Lefel aelodaeth Talu Wrth Fynd
Rydym yn cydnabod y gall hyd yn oed y lefelau aelodaeth isaf fod yn ormod i rai. Mae gennym hefyd lefel Talu Wrth Fynd. Mae’n agored i unrhyw weithiwr celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru.
Bydd hyn yn rhoi’r canlynol i’r cyfranogwyr:
- Y dewis i fynd i ddigwyddiadau fel sesiynau hyfforddi a’r Gynhadledd Flynyddol drwy dalu ffi untro am fod yn bresennol.
- Mynediad at ‘ddiwrnod agored’ blynyddol lle bydd mynediad agored at adnoddau a deunyddiau. Bydd y diwrnod agored hefyd yn cynnwys digwyddiad rhwydweithio gydag aelodau llawn Creu Cymru.
- Cael gwybod ymlaen llaw am gynlluniau a phrosiectau a allai fod o ddiddordeb.
- Pam ddylwn i ymuno?
-
Mae eich aelodaeth yn ein helpu i greu sector celfyddydau perfformio bywiog a chadarn yng Nghymru.
Fel aelod o Creu Cymru, byddwch yn rhan o rwydwaith o fudiadau ac unigolion proffesiynol yn y maes celfyddydau perfformio ledled Cymru.
- Ar y lefelau Aelodaeth Lawn ac Aelodaeth Gyswllt, mae’r aelodaeth yn enw’r mudiad, a gall staff ar bob lefel gymryd rhan mewn digwyddiadau, hyfforddiant a phrosiectau.
- Digwyddiadau hyfforddi gyda chymhorthdal hael
- Y gallu i fod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau meithrin gallu
- Digwyddiadau rhwydweithio a chyfarfodydd i aelodau
- Cyfraddau is a chyfleoedd i fynd a gweld gwaith neu ddigwyddiadau
- Eiriolaeth: Cynrychioli Sector Celfyddydau Perfformio Cymru wrth ymwneud â Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a rhanddeiliaid a llunwyr polisi eraill.
- Hynt – Hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol, ac mae’n fenter sy’n cael ei rheoli gan Creu Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae 19,599 o aelodau wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ledled Cymru erbyn hyn
- Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol lle mae gwahoddiad i arweinwyr y diwydiant gyflwyno, rhannu gwersi a ddysgwyd a hybu arferion, a lle mae llwyfan i aelodau arddangos eu prosiectau a’u harbenigedd eu hunain
- Mynediad at fanc bwrdd y Celfyddydau i’r Celfyddydau – gan gynorthwyo’r rhai sy’n dymuno ehangu eu byrddau a’r rhai sy’n dymuno gwasanaethu arnynt.
- Drwy ein Partneriaeth Ally for Change gydag Inc Arts, bydd aelodau’n gallu cael mynediad at eu partneriaeth eu hunain am bris is.
- Rydw i’n rhedeg cymdeithas ddrama amatur - alla i ymuno?
-
Dim ond theatrau neu gwmnïau sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol sy'n gallu ymaelodi, er mwyn i ni wasanaethu’r aelodaeth yn briodol.
- Ar ôl dod yn aelod, oes rhaid i mi dalu mwy am ddigwyddiadau hyfforddi?
-
Rydym yn rhoi cymhorthdal hael ar gyfer ein digwyddiadau a’n sesiynau hyfforddi. Mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni godi tâl am fod yn bresennol er mwyn talu am logi ystafell neu arlwyo neu gostau’r digwyddiad.
- Pam mae’n rhaid i mi dalu am aelodaeth Hynt a Creu Cymru ar wahân?
-
Mae rhywfaint o orgyffwrdd gan fod Creu Cymru’n rheoli Hynt ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, ond gan fod y naill a’r llall yn cael eu cyllido ar wahân, mae angen aelodaeth arnom er mwyn rheoli y naill a’r llall ar wahân. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o Creu Cymru i ymuno â Hynt, ac i’r gwrthwyneb. Mae aelodaeth o Hynt yn orfodol i rai aelodau o Creu Cymru sy’n APW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ymuno â Hynt, cysylltwch â’n Gweinyddwr Prosiectau, Megan Merrett: megan@creucymru.com.
- Sut mae Creu Cymru yn cael ei gyllido?
-
Mae Creu Cymru yn cael incwm drwy ffioedd aelodaeth a grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau.
- Sut mae bwrsariaeth ‘Mynd a Gweld’ yn gweithio?
-
Yn agored i aelodau Creu Cymru, un o gonglfeini gwaith Creu Cymru yw’r cynllun ‘Mynd a Gweld’. Gall aelodau unigol wneud cais am fwrsariaeth tuag at gostau mynd i berfformiadau, cyfleoedd hyfforddi, gwyliau a chynadleddau.
I wneud cais, bydd aelod yn rhoi gwybod i’r Gweinyddwr am ddigwyddiad yr hoffai wneud cais am fwrsariaeth ar ei gyfer. Gall y Gweinyddwr drefnu llety, teithio a thocynnau ar ran yr unigolyn. Bydd Creu Cymru yn talu hanner y costau, gyda chap o £150, a bydd anfoneb am y costau sy’n weddill yn cael ei hanfon at yr aelod.
Fel rhan o hyn, mae’n ofynnol i’r aelod ysgrifennu adroddiad ar y digwyddiad a fydd yn cael ei rannu ar wefan Creu Cymru.