Gwybodaeth am y digwyddiad
Sesiwn gyda’r tîm All In a chyfle i gael cipolwg ar y cynllun newydd am y tro cyntaf. Dyma gyfle i dynnu sylw at nodweddion newydd a thrafod sut i ddefnyddio'r safonau newydd.
Yn ystod y digwyddiad bydd cyflwyniadau, sesiynau i rannu gwybodaeth am brosiectau a sesiynau holi ac ateb gyda sefydliadau a phrosiectau yng Nghymru. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys: Hijinx, Amgueddfa Cymru, Gig Buddies, Craidd a llawer mwy.
Mae Symposiwm Hynt yn un o’r uchafbwyntiau blynyddol yn ein calendr. Mae’n llwyfan i rannu gwybodaeth a chynnal trafodaethau sy’n eich helpu i ehangu eich rhwydwaith ac i gynnig gwasanaethau mwy hygyrch i ymwelwyr, cydweithwyr ac artistiaid byddar, anabl neu niwrowahanol.
Dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain: Hannah Wilson a Sara Venables
Llais-i-destun: Sheryll Holley a Francis Barrett
