Ein ffocws yw:
- Cydraddoldebau, amrywiaeth a chynhwysiant
- Eiriolaeth, ymchwil ac effaith
- Datblygu’r gweithlu, gwaith teg a llesiant
- Datblygu cynulleidfaoedd a chysylltiad cymunedol
- Dangos, dathlu ac arloesi
- Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Ein Blaenoriaethau
Isod ceir manylion ein blaenoriaethau trosfwaol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyfredol fel a ddisgrifir o dan ein baneri gweithredu Hyrwyddo, Cysylltu ac Esblygu.
Hyrwyddo
Ein nod yw cyfleu gwerth y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Rydyn ni’n adnabod y prif faterion sy’n effeithio ar ein haelodau gan osod yr agenda i fynd â’r materion hyn rhagddynt, yn annibynnol yn ogystal â thrwy weithredu ar y cyd â chynghreiriaid strategol. Rydyn ni’n cynrychioli gwerth ein haelodau ac yn hyrwyddo’r gwerth y maent yn ei gyfrannu i lesiant cymunedau a hunaniaeth ddiwylliannol.
Cysylltu
Rydyn ni’n cysylltu gwneuthurwyr a chyflwynwyr perfformiadau i greu cydddealltwriaeth, effaith dorfol a chanlyniadau cydfuddiol sy’n cefnogi ac yn ymestyn cyflwyniad a symudedd gweithgarwch ym maes y celfyddydau perfformio.
Esblygu
Rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gyfoethogi sgiliau a phrofiad y gweithlu presennol a galluogi’r rheini sy’n newydd i’r sector i adnabod llwybrau i’r diwydiant. Anelwn at wella cydraddoldeb ac amrywiaeth y sector i sicrhau datblygu ystod eang a chynrychioladol o gynhyrchwyr cynnwys a chynhyrchu gwaith sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol
Thank you!
As a charity, we couldn't continue our work without the help of generous supporters and funders.
Huge thanks to - Arts Council of Wales, Moondance Foundation, Foyle Foundation, YesPlan, The Audience Agency, Ticketsolve and University of South Wales.