
Gwybodaeth am y digwyddiad
Digwyddiad Ymylol Creu Cymru yng Nghynhadledd Plaid Cymru
Ymunwch â ni am drafodaeth banel ddeinamig yn edrych ar sut gall y celfyddydau siapio dyfodol Cymru. Mae'r digwyddiad ymylol hwn yn cael ei gynnal gan Creu Cymru, ac mae’n dod â lleisiau o bob rhan o'r sector diwylliannol at ei gilydd i sbarduno sgwrs am hunaniaeth, gweithredu, a grym trawsnewidiol creadigrwydd.
O adfywio economïau lleol i rymuso cymunedau ac ysbrydoli newid gwleidyddol, mae diwylliant yn sbardun cynnydd pwerus. Gyda'n gilydd, byddwn yn edrych ar sut gall ymarfer creadigol a pholisi diwylliannol weithio law yn llaw i greu Cymru fwy bywiog, cynhwysol, ac uchelgeisiol.
Bydd Heledd Fychan AC, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru ac aelod o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn cadeirio.
Dyma’r themâu y byddwn ni’n eu trafod:
- Polisi ac Ymarfer: Beth sydd ei angen ar artistiaid a sefydliadau i ffynnu?
- Cymuned ac Adfywio: Sut gall diwylliant fynd i’r afael â heriau cymdeithasol?
- Effaith a Dychymyg: A all creadigrwydd lywio meddwl gwleidyddol?
- Hunaniaeth ac Iaith: Sut mae'r celfyddydau'n cynnal hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg?
Byddwch yn rhan o’r sgwrs. Byddwch yn rhan o’r newid.
Bydd te, coffi, sudd a theisennau crwst ar gael.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru
Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Lisbeth McLean, Prif Weithredwraig, Canolfan Soar ac ymgeisydd Plaid Cymru - Etholiad y Senedd yn 2026.
Owain Gwilym, Cyfarwyddwr Gweithredol; Celfyddydau Anabledd Cymru
Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg
I'w cadarnhau
Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru
Fel rhan o hyn gallwn gael 25% i ffwrdd ar passes arsylwgwyr i’n haelodau fynychu’r Gynhadledd (£300 y person yn lle £400)
Anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com erbyn y 14eg Fedi os ydych am fynychu.