Mae Aelodaeth Lawn yn agored i unrhyw fudiad proffesiynol yng Nghymru sydd â’r prif bwrpas o gynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio. Mae aelodaeth yn enw’r sefydliad a gall pob gweithiwr elwa ar fod yn aelod.
Ffi: 0.1% o drosiant ar gyfer y flwyddyn 2019/20 gydag isafswm taliad o £472.50* i uchafswm o £2,625 y flwyddyn a TAW.
Os ydych chi’n gweithredu sawl lleoliad o dan un sefydliad, bydd y gyfradd yn cael ei chyfrifo yn ôl y lleoliad sydd â’r trosiant uchaf yn gyntaf, yna bydd pob lleoliad dilynol ar y gyfradd dalu isaf.
*Dim lleiafswm tâl i sefydliadau nad ydynt wedi’u lleoli mewn adeiladau ac nad ydynt yn derbyn cyllid blynyddol rheolaidd.
Cliciwch yma am y ffurflen gais
Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata, Theatr Felinfach
Pam bod yn aelod:
Fel aelod o Creu Cymru byddwch yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ac unigolion celfyddydau perfformio proffesiynol ledled Cymru.
Yn ogystal â helpu i drawsnewid y sector celfyddydau perfformio yng Nghymru, mae bod yn aelod yn cynnig:
- Mynediad at sgiliau, gwybodaeth a’r hyder i wella ymarfer ac eiriolaeth yr unigolyn a’r sefydliad.
- Cysylltiadau cryf o fewn rhwydwaith cenedlaethol.
- Mynediad uniongyrchol at raglennwyr a chyfleoedd i raglennu.
- Cefnogaeth gan awdurdod sy’n cael ei barchu a’i werthfawrogi, gyda sylfaen wybodaeth gadarn a gwybodus yn y sector celfyddydau perfformio.
- Y gallu i ddylanwadu ar y dylanwadwyr.
Yr hyn y gallwn ei gynnig:
Cynhadledd Flynyddol yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau panel, rhwydweithio a chyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd
Ffioedd aelodaeth wedi’u rhewi am y drydedd flwyddyn yn olynol
Gall unrhyw staff yn eich sefydliad gymryd rhan yn ein digwyddiadau / cyfleoedd
Hyfforddiant o ansawdd uchel gyda lefel uchel o gymhorthdal ariannol
Cyfleoedd i rwydweithio
Cynrychiolaeth i Gymru ledled y DU
Symposiwm hynt
Ymweliadau a Bwrsarïau wedi’u curadu
Cyngor gan ein staff
Mynediad at arbenigwyr
Cydweithio a dysgu ar y cyd
Cyfleoedd i hyrwyddo eich gwaith a swyddi gwag
Hynt – hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol ac yn un o fentrau CCC a reolir gan Creu Cymru ar eu rhan. Mae dros 30,000 o aelodau hynt bellach wedi ymuno â’r cynllun ar draws Cymru.