
Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae Creu Cymru a’r Theatre Green Book yn eich gwahodd i Lansiad Cymru o Ail Rifyn y Theatre Green Book.
Dydd Mercher, 19 Chwefror am 1yp. Canolfan Mileniwm Cymru, y Cabaret.
Dolen llif byw https://www.youtube.com/live/nbXIPVdNo3c
Mae 2il argraffiad y Theatre Green Book bellach yn cynnwys y tair adran: Cynyrchiadau, Gweithrediadau ac Adeiladau, mewn un lle a’r offer tracio hwylus ar Excel.
Cewch glywed mwy gan Gyfarwyddwr y Theatre Green Book, Lilli Geissendorfer, am yr uchelgais a rhai o’r llwyddiannau hyd yma. Bydd Tom Naylor, Rheolwr Cynhyrchu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn siarad am ddefnydd y Ganolfan o’r TGB ar eu cynhyrchiad Nadolig a’u cynhyrchiad o Pontypool, yn ogystal â’r dyheadau ar gyfer eu hadeiladau a’u gwaith. Bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod agweddau ar y Theatre Green Book gyda Tom a Lili.
Diolch arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru a Charcoal Blue am gefnogi'r digwyddiad hwn.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan newydd – cliciwch yma