Gwybodaeth am y swydd :
Contract llawrydd 12 mis, dau ddiwrnod y mis, o fis Chwefror 2025
Ffi: £250 y diwrnod, a hyd at £600 y flwyddyn ar gyfer costau teithio a llety
Diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Creu Cymru yn bwriadu recriwtio Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru i weithio ar sail lawrydd.
Bydd Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru yn gefnogwr gwybodus a brwd o ymarfer theatr cynaliadwy, a bydd yn gallu creu gweledigaeth a dyfodol cynaliadwy ar gyfer Llyfr Gwyrdd y Theatr, gan gynyddu’r niferoedd sy’n ymgysylltu ag ef ac yn ymrwymo iddo, a chefnogi rhwydweithiau o ddefnyddwyr ledled Cymru.
Drwy gydweithio â Bwrdd, aelodaeth a Chyfarwyddwr Creu Cymru, bydd Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru yn chwarae rôl hollbwysig o ran hyrwyddo Llyfr Gwyrdd y Theatr ac yn rhannu’r dysgu drwy weithredu fel eiriolwr amlwg a rhagweithiol dros gynaliadwyedd yn sector diwylliannol Cymru. Bydd gwaith yr Hyrwyddwr yn cynorthwyo i gynyddu ymwybyddiaeth o Lyfr Gwyrdd y Theatr, ymgysylltiad ag ef, a defnydd o’i egwyddorion ar draws theatrau a chwmnïau cynhyrchu.
Bydd yr Hyrwyddwr yn gweithredu fel llefarydd, gan bontio’r bwlch rhwng tîm y prosiect a’r sector diwylliannol a sicrhau bod cyfranogwyr yn deall egwyddorion Llyfr Gwyrdd y Theatr, yn eu parchu, ac yn ymddiried ynddynt. Bydd hefyd yn cydweithio â thîm Llyfr Gwyrdd y Theatr y DU, gan fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl y gofyn i gynorthwyo i gyfnewid gwybodaeth ac i sicrhau bod gweithgareddau ehangach sy’n ymwneud â Llyfr Gwyrdd y Theatr yn gyson â’i gilydd ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Menter sydd ar waith ar draws y sector yw Llyfr Gwyrdd y Theatr , a'i nod yw cynorthwyo theatrau ac ymarferwyr theatr i sicrhau bod pob agwedd ar eu gwaith yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, a hynny ar draws cynyrchiadau, adeiladau a gweithrediadau. Mae’n adnodd ar-lein ac yn rhwydwaith o ymarferwyr theatr, ar draws pob math o rôl, sydd wedi ymrwymo i feithrin arferion gorau ym maes theatr amgylcheddol gynaliadwy ac i hyrwyddo defnydd o Lyfr Gwyrdd y Theatr yn ehangach.
YNGHYLCH CREU CYMRU
Mae Creu Cymru yn hyrwyddo sector celfyddydau perfformio bywiog Cymru, gan gysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau.
Mae ein haelodau yn ffurfio rhwydwaith cydweithredol a chanddo lais cryf ac unedig yr ydym yn ei ddefnyddio i eirioli ar eu rhan gerbron cyrff llywodraethu cyhoeddus, gan ddylanwadu arnynt i wireddu newid cadarnhaol a sicrhau bod gan y diwydiant gynrychiolaeth hanfodol.
Mae Creu Cymru yn cefnogi lleoliadau, cwmnïau ac unigolion drwy strategaethau twf blaengar. Mae ein cyfleoedd Ewch i Weld, ein hyfforddiant arbenigol a’n pecyn adnoddau yn meithrin sgiliau a phrofiad cyfunol ein gweithluoedd creadigol. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn a raglennir ar draws y sector yn parhau i esblygu, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb, perthnasedd a chynhwysiant ar gyfer cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o liw, pobl LHDTC+ (rydym yn sefydliad traws-gynhwysol), pobl fyddar, anabl a niwrowahanol, a phobl sydd wedi’u hallgáu neu’u hymyleiddio mewn ffyrdd eraill.
Nid oes gan Creu Cymru swyddfeydd parhaol. Eich prif weithle fydd eich cartref, a byddwch hefyd yn treulio amser yn gweithio yn lleoliadau a swyddfeydd ein haelodau.
I wneud cais, ewch ati i lawrlwytho disgrifiad o’r swydd a manyleb y person isod.
Dyddiad cau: Dydd Llun 20 Ionawr
Dyddiadau’r cyfweliadau: Dydd Mercher 29 a dydd Iau 30 Ionawr
Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn gallu gweithio yn y swydd o fis Chwefror