
Gwybodaeth am y swydd :
Rydyn ni'n recriwtio Rheolwr Busnes a Gweithrediadau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 29.5 Oriau
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2026
Lleoliad: Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm adfywio ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £30,247.86 - £32,271.41 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gyfle i reolwr profiadol sicrhau'r safonau uchaf o wasanaeth yn y lleoliad theatr a chelfyddydau hanesyddol hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain y rhan hon o'r sefydliad a darparu arweiniad strategol tra bydd y gwaith trawsnewid yn cael ei arwain gan ymgynghorydd annibynnol, sydd ar fin cael ei benodi.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol yn y rôl hanfodol bwysig hon gan fod angen i ni sicrhau bod ei enw da am sioeau a digwyddiadau o ansawdd uchel yn cael ei gynnal trwy gyfnod o bontio i fod yn elusen annibynnol. Byddwch chi’n gyfrifol am weithrediad llyfn y theatr, a sicrhau bod Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn fan diogel, croesawgar a bywiog i ymwelwyr, cynulleidfaoedd ac artistiaid, gan sicrhau’r lefelau uchaf o wasanaethau i gwsmeriaid bob amser.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio gyda'r nos ac ar y penwythnos yn unol â natur y rôl.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 4 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Sgiliau datrys problemau a'r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun a gwneud penderfyniadau.
- Profiad o reoli arian, gan gynnwys profiad o reoli cyllidebau a thargedau incwm.
- Hyblygrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at welliant parhaus.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Antony Bolter/Allan Dallimore ar 07766162570/ 01443 866441 neu ebost: boltea@caerphilly.gov.uk dallia@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer 14-03-2025