
Mae Creu Cymru yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ar gyfer y celfyddydau £4.4m. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys cynnydd ariannol i Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n golygu ei fod yn cael £33.314 miliwn. Mae’n gynnydd felly o 3.6% ar yr hyn a oedd yng nghyllideb ddrafft Rhagfyr. Mae’r swm yn dychwelyd y Cyngor i lefel ariannu 2023/24 cyn y toriad y llynedd o 10.5% yn ei gyllideb. Mae'r ymrwymiad hwn yn hwb sylweddol sydd mawr ei angen ar sector diwylliannol Cymru ar adeg o heriau aruthrol. Estynnwn ein gwerthfawrogiad i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant am ei arweiniad wrth sicrhau bod y celfyddydau yn parhau’n flaenoriaeth.
Bydd y cynnydd hwn mewn cyllid yn helpu i ddiogelu canolfannau celfyddydol, cefnogi swyddi creadigol, a chynnal rôl hanfodol y celfyddydau yn ein cymunedau a’n heconomi. Fodd bynnag, fel yr amlygwyd yn adroddiad diweddar Pwyllgor Diwylliant y Senedd, mae’r sector yn dal i wynebu ansefydlogrwydd ariannol yn dilyn blynyddoedd o bwysau ariannol. Mae ein Hadroddiad Ciplun Sector ein hunain hefyd yn dangos sefyllfa fregus llawer o sefydliadau celfyddydol, gyda chostau’n cynyddu, gweithlu llai o dan bwysau enfawr ac effaith barhaus y pandemig a’r hinsawdd economaidd bresennol yn parhau i gyflwyno risgiau difrifol.
Tra bod y cynnydd hwn mewn cyllid yn gam i'r cyfeiriad iawn, mae buddsoddiad hirdymor a chymorth strategol yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau sector celfyddydau llewyrchus a chadarn yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy fuddsoddiad refeniw a chyfalaf er mwyn sicrhau y cydnabyddir diwylliant unigryw Cymru ledled y byd ac i adeiladu dyfodol cryfach i’r celfyddydau.