Y geiriau 'This is the sign you've been looking for' mewn goleadau ar wal
Cynhyrchydd (Rhan amser) - Theatr Iolo
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
30 Ebrill

Gwybodaeth am y swydd :

Cynhyrchydd 

Rhan Amser (80 awr y mis) 
Cyflog:  £16,000 y flwyddyn (£30,000 pro rata)

Gweledigaeth Theatr Iolo ydi cymdeithas lle gall pob plentyn deimlo wedi’i ymrymuso a’i ysbrydoli.Rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud hyn drwy gyfoethogi bywydau plant drwy brofiadau cofiadwy sy’n herio’r meddwl ac yn cyffroi’r dychymyg.

Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr arobryn sydd ar flaen y gad ym maes theatr i blant a phobol ifanc ers agos i ddeugain mlynedd.  Mae plant a rhieni, disgyblion ac athrawon, babis a’r glasoed yn cael blas ar berfformiadau, gweithdai a chynyrchiadau gan y cwmni, yn cael eu perfformio mewn mannau o bob lliw a llun ledled Cymru, yng ngwledydd Prydain a gwledydd eraill y byd.

Rydym yn chwiio am Gynhyrchydd rhan amser fydd yn gyfrifol am gynhyrchu pob agwedd ar gynyrchiadau Theatr Iolo (tua dau gynhyrchiad y flwyddyn) a hwn fydd y prif fan cyswllt i gydweithwyr mewnol ac allanol.  Os ydych chi’n rhannu ein hawch am theatr, am feithrin y dychymyg a chreu straeon fydd yn para oes, mae arnom eisiau clywed gennych!  Mae hwn yn gyfle tan gamp i ymuno â’n tîm a defnyddio ein hanes anhygoel yn sylfaen i lunio’r cwmni at y dyfodol.

{Os carech wneud cais am swydd y Cynhyrchydd, llenwch y ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfon copi o’ch CV a llythyr cais at michelle@theatriolo.com.  Derbyniwn hefyd gais yn Iaith Arwyddion Prydain neu recordiad fideo byr, llai na thri munud.  Edrychwn ymlaen at glywed pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd yma, a pha fedrau a phrofiad y byddech chi’n eu dwyn i’r cwmni, gan gyfeirio at y disgrifiad swydd a’r manyleb person.

Dyddiad cau’r ceisiadau yw canol dydd Mercher 30 Ebrill 2025 a chynhelir y cyfweliadau cyntaf yr wythnos sy’n cychwyn 12 Mai 2025 yng Nghaerdydd.  Cadarhawn drwy ebost fod eich cais wedi dod i law.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.