
Gwybodaeth am y swydd :
Cyflog: £28,719 per annum,
LLAWN AMSER, PARHAOL
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Rheolwr Marchnata yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gysylltu â chynulleidfaoedd yn y de-ddwyain a’r tu hwnt, gan gynyddu incwm ac adrodd stori’r theatr gynhyrchu flaenllaw yma.
Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol.
Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 13 Mai 2025
Cyfweliad: dydd Mercher 21 Mai 2025
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.
Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/swyddi.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.