
O’r Llwyfannau i’r Penawdau: Cysylltiadau Cyhoeddus ar gyfer Pobl Greadigol Gweithdy Cysylltiadau Cyhoeddus wedi’i deilwra ar gyfer Gweithwyr Creadigol Proffesiynol
Mer, 11/06/2025 - 02:00yp-Mer, 11/06/2025 - 04:00yp
Ar-lein
Gwybodaeth am y digwyddiad
Dydd Mercher 11 Mehefin
2yp – Cymraeg
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cyfarwyddwyr theatr, actorion, swyddogion cyfathrebu, swyddogion gweithredol a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y diwydiannau diwylliannol, ac sy’n awyddus i gryfhau eu presenoldeb yn y cyfryngau, datblygu eu brand, a dysgu am yr hyn sydd ei angen i greu ymgyrchoedd grymus. Cyflwynir gan Medi PR.
Sesiwn 2 awr a ddarperir ar-lein.
Hyn a hyn o leoedd am ddim sydd ar gael ar y cyrsiau, a bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Ar ôl hynny, bydd yn costio £10 i aelodau / £20 i’r rhai nad ydynt yn aelodau.