Dawnswyr ar y llwyfan yn gwisgo dillad du
CDCCymru: Recriwtio Ymddiriedolwyr
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
27 Mehefin

Gwybodaeth am y swydd :

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n chwilio am grŵp amrywiol o bobl i ymuno â ni, sy’n gallu helpu i ysbrydoli pobl Cymru a’r byd gyda dawnsio gwych. Rydym eisiau canfod dulliau newydd o weithio i gyrraedd pobl newydd a gwahanol - i gyflawni ein cenhadaeth i fynegi syniadau y tu hwnt i eiriau, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru a’r byd yn yr oes sydd ohoni.

Rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwyr newydd, gan ganolbwyntio fwyaf ar y rhai hynny sydd â sgiliau a phrofiad yn y celfyddydau perfformio, materion cyfreithiol a llywodraethiant, cyllid, dysg a chyfranogiad, a chodi arian. Bydd pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu am hyd at 2 dymor o 3 blynedd yr un.

Mae ehangu ymgysylltiad, hyrwyddo arloesedd, dadlau o blaid dawns a meithrin ein gwydnwch wrth wraidd popeth a wneir gan CDCCymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfleoedd cyfartal i gael mynediad i fyd dawns.

Rydym yn mynd ati’n arbennig i annog ceisiadau gan bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector dawns, a gan y rheiny sy’n profi gwahaniaethu. Rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion o ran mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch. Mae’r swyddi’n ddi-dâl, ond gellir ad-dalu costau.

Gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth a phecyn cais mewn fformatau amrywiol.  Mae’r pecyn yn egluro sut i gysylltu â’r Cadeirydd am sgyrsiau rhagarweiniol. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 27 Mehefin 2025. 

Bydd CDCCymru yn cynnal dwy sesiwn tŷ agored (un ar-lein ac un wyneb yn wyneb) i unrhyw un sydd am ddysgu mwy Tŷ Agored Ymddiriedolwyr | National Dance Company Wales

Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant yng Nghymru a Lloegr o dan rif 1672419
Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr o dan rif 326227