
Gwybodaeth am y digwyddiad
Cyfarfod y Sector i ymateb i’r Adroddiadau ar Ddyfodol Theatr Saesneg a Dawns yng Nghymru
Mae Creu Cymru yn gwahodd pawb sy'n gweithio yn y sector celfyddydau perfformio yng Nghymru - lleoliadau, cynhyrchwyr, artistiaid, gweithwyr llawrydd, addysgwyr a sefydliadau - i gyfarfod hanfodol yn edrych ar ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau annibynnol diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru o Theatr Saesneg a Dawns.
Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Chwefror 2025, 11am-12.30pm
Lleoliad: Dolen Ar-lein
Pam dod i’r digwyddiad?
Mae'r ddau adolygiad nodedig hyn yn gyfle unigryw i fyfyrio, ymateb a siapio dyfodol ein sector. Bydd y cyfarfod hwn yn:
- Dadansoddi prif ganfyddiadau'r ddau adolygiad
- Archwilio beth maen nhw'n ei olygu i'ch gwaith chi ac i'r ecoleg ehangach
- Nodi blaenoriaethau cyffredin a chyfleoedd i gydweithio
- Helpu i siapio camau gweithredu ar y cyd ac eiriolaeth wrth symud ymlaen
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r cyfarfod hwn yn agored i unrhyw un sy'n gweithio yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru, p'un a ydych chi'n rhan o sefydliad neu'n gweithio'n annibynnol. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o Creu Cymru i fynychu. Mae eich llais yn bwysig wrth siapio dyfodol theatr a dawns yng Nghymru.