Cyfleoedd gwaith gyda Papertrail
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
16 Rhagfyr

Gwybodaeth am y swydd :

Mae cwmni theatr Papertrail wedi bod yn llwyfannu straeon gan leisiau tangynhyrchiol yng Nghymru a thu hwnt ers 10 mlynedd. Nawr, diolch i gynllun Camau Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r cwmni yn dechrau ar gyfnod newydd a chyffrous o ddatblygiad wrth i Jonny Cotsen ymuno â’r Cyfarwyddwr Artistig sefydlol, Bridget Keehan, i gyd-arwain y cwmni. Yn ganolog i’w gweledigaeth yw hybu ac arbrofi gyda sut caiff mynediad creadigol ei ddefnyddio mewn cynyrchiadau.

Mae gan y cwmni restr o brojectau newydd ar y gweill, sy’n cynnwys taith o’r ddrama A Visit gan Siân Owen, cynhyrchiad o’r ddrama newydd, Moses, Grobbelaar & Me gan Jonny Cotsen a Bridget Keehan, project hyfforddi newydd sbon mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama, ac apwyntio dau Artist Cysylltiol newydd. I helpu’r cwmni gyflawni’r projectau hyn, mae Papertrail am recriwtio Cynhyrchydd Creadigol a Rheolwr Cyffredinol i ymuno â nhw yn 2025. Am fwy o wybodaeth am y rolau hyn ac am sut i ymgeisio, gweler isod:

Dyma’r manylion:
Cyfle i Reolwr Cyffredinol Llawrydd i weithio gyda Papertrail
🕛Oriau:  2.5 diwrnod yr wythnos
💰Ffi: yn gyfatebol a 36k pro rata
📆Hyd prosiect: Cytundeb 10 mis yn gychwynnol. Yn ddelfrydol i ddechrau ym mis Ionawr/Chwefror 2025. Mae posibiliad o ymestyn y cytundeb yn ddibynol ar dderbyn cyllid pellach.
📍Lleoliad gwaith: Hyblyg/gweithio o bell ond yn barod i gyfarfod yn gyson yng Nghaerdydd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Rhagfyr y 16ed am 12yh
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal Dydd Llun Ionawr y 6ed 2025

Cyfle i Gynhyrchydd Creadigol Llawrydd gyda Papertrail
💰Ffi: Mae’r cytundeb llawrydd rhan amser yn 50 diwrnod dros gyfnod o 10 mis i ddechrau ar raddfa o £200 y dydd. Mae modd negydu oriau gwaith ond yn ddelfrydol 2 ddiwrnod yr wythnos i ddechrau. Hoffwn i’r ymgeisydd ymuno â ni yn gynnar yn 2025.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener y 16ed o Ragfyr am 12yh
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal: Dydd Llun Ionawr y 6ed 2025