
Gwybodaeth am y swydd :
Cyflog: £25,448 - £28,381
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw conservatoire cenedlaethol Cymru. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau. Nod y tîm Digidol a Brand yw cysylltu, ysbrydoli ac arloesi er mwyn rhannu stori Coleg Brenhinol Cerdd a Drama gyda'r byd.
Mae'r Cynorthwyydd Marchnata a Chynnwys yn gyfrifol am gefnogi tîm prysur i gyflwyno cynnwys a dulliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â chodi proffil y Coleg. Gan weithio o fewn yr adran Ddatblygu, byddwch hefyd yn cydweithio'n agos ag adrannau eraill i gyflawni gweledigaeth a strategaeth y Coleg.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’r Cynorthwyydd Marchnata a Chynnwys yn adrodd i’r Uwch Gynhyrchydd Cynnwys. Mae’r swydd yn cynnwys darparu amrywiaeth eang o gynnwys a dulliau cyfathrebu, gan weithio ar draws pob agwedd ar ryngwyneb y Coleg â darpar fyfyrwyr, aelodau o’r gynulleidfa, cyrff cyllido, cefnogwyr, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, y cyhoedd yn ehangach a staff y Coleg.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhoi hyfforddiant arloesol yn seiliedig ar berfformio i fwy nag 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n denu cynulleidfaoedd o 60,000 a mwy o bobl y flwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barcdir trefol hardd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas.
Gyda hanes unigryw a nodedig o 75 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys bod yn ysgol ddrama orau'r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian ar sawl achlysur, mae'r Coleg yn y degawd diwethaf wedi dod yn sefydliad diwylliannol o bwys yng Nghymru - gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â’r diwydiant, a rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. Mae'r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy'n barod ar gyfer y diwydiant a gyrfaoedd rhyngwladol.
Mae ein henw da wedi’i seilio ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o dalentau a sgiliau. Rydym yn lle cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu gwahaniaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd mewnol ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Byddwch chi’n parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â yen.curran@rwcmd.ac.uk
Cyfweliadau: 11eg Medi 2025