Gwybodaeth am y digwyddiad
Nod y prosiect yw creu fideos hyfforddiant ar-alw y gall aelodau eu gwylio yn eu hamser eu hunain, naill ai fel tîm neu fel unigolion, beth bynnag sy’n addas i batrymau gweithio a dysgu.
Bydd y fideos hefyd yn darparu hyfforddiant rhagarweiniol ar gyfer hyfforddiant byw mwy manwl yn y dyfodol.
Bydd y pynciau’n cynnwys:
- ‘Cyflwyniad i Wasanaeth i Gwsmeriaid’ gyda Tansy Rogerson, Armadillo Events (13 munud)
- ‘Croeso cynnes i gynulleidfaoedd ag anghenion ychwanegol’ gyda Hijinx (9 munud)
- ‘Derminoleg Gwrth-hiliaeth’ gyda Everyday Racism (10 munud)
- ‘Cyflwyniad i hunanofal’ gyda Beam Training (32 munud)
- ‘Goresgyn Pryderon’ gyda Beam Training (19 munud)
- ‘Rhoi Hwb i Greadigrwydd’ gyda Beam Training (18 minutes)
Cost i aelodau CC - £5 y fideo (gall unrhyw un yn y sefydliad ei adolygu) neu £20 i gael mynediad at y chwe fideo.
Os byddwch chi’n gwylio gyda chydweithwyr eraill, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n treulio rhywfaint o amser wedyn yn trafod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu a sut gallech chi roi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar waith.
Rhowch wybod i ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen. Byddwn yn anfon gwerthusiad atoch ar ôl mis, felly cofiwch roi eich adborth i ni.
Diolch yn fawr iawn i’r Foyle Foundation am ariannu’r ffilmiau.
Hefyd, diolch i’r holl hyfforddwyr, actorion, gwneuthurwyr ffilmiau a lleoliadau sy’n gadael i ni ffilmio yn eich mannau godidog.
Cysylltwch â yvonne@creucymru.com i gofrestru.
This project is funded by the Foyle Foundation