Exterior image of Taliesin Arts Centre
Goruchwyliwr y Swyddfa Docynnau a Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
18 Mehefin

Gwybodaeth am y swydd :

Cyflog:  £26,038 to £28,879 y flwyddyn

Y rôl
Rôl barhaol yw hon am 21 awr yr wythnos.

Mae'r rôl ddeinamig hon yn canolbwyntio ar reoli'r Swyddfa Docynnau a CRM, gwerthiannau a chyfathrebu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, academaidd a masnachol a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, ac ar gyfer prosiectau eraill ar y campws ac oddi arno.

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys:

  • Casglu a lanlwytho data digwyddiadau i system a gwefan y Swyddfa Docynnau.
  • Hwyluso a goruchwylio'r broses werthu ar-lein a thasgau cysylltiedig.
  • Cynhyrchu adroddiadau ar gyfer swyddogaethau cyllid, rhaglennu a marchnata, a chwmnïau sy’n ymweld.
  • Monitro adborth cwsmeriaid a dadansoddi canlyniadau arolygon.
  • Cydweithio â'r tîm marchnata i ddatblygu a gweithredu cyfathrebu â chwsmeriaid.

Mae’r manylion llawn wedi'u cynnwys yn y Disgrifiad Swydd.

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 2 - Eithaf da. Bydd deiliad y swydd yn gallu deall ystod o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, cynnal sgwrs syml, ac ysgrifennu gohebiaeth weddol gywir yn Gymraeg. Bydd efallai angen troi at Saesneg i drafod materion cymhleth neu dechnegol.

Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.