Yellow triangle with the words hynt printed within the triangle
Gweinyddwr Cyflafareddu Hynt (llawrydd)
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
16 Mai

Gwybodaeth am y swydd :

Crynodeb

Teitl y Swydd:  Gweinyddwr Cyflarareddu Hynt
Yn atebol i:  Gweinyddwr Prosiectau (Creu Cymru)
Cyflog:   £542.50 y mis am 6 mis (cyfanswm o £3255)
Oriau Gwaith:  Hyblyg yn seliedig ar lwyth gwaith (bydd ceisiadau'n cael eu hatgyfeirio yn  ôl yr angen),  O leiaf 10 awr / uchafswm o 15 awr y mis
Lleoliad:  Nid oes gan Creu Cymru swyddfa barhaol. Prif weithle’r swydd hon fydd yn eich cyfeiriad cartref. 
Cyfnod rhybudd:  1 mis gan y naill ochr 
Cyfleoedd cyfartal:  Mae disgwyl i ddeiliad y swydd weithredu’n unol ag arferion cyfle cyfartal y sefydliad

Rydym ni’n annog ceisiadau gan bobl o liw, pobl LHDTC+ (rydym ni’n sefydliad traws-gynhwysol), pobl Fyddar, anabl a niwrowahanol, a phobl sydd wedi profi math arall o allgáu neu ymyleiddio.

Bydd Gweinyddwr Cyflafareddu Llawrydd Hynt yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o reoli a goruchwylio proses gyflafareddu Hynt. Mae cyflafareddu yn cefnogi unigolion nad yw eu hanghenion o ran mynediad yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd awtomatig, neu sydd angen mwy nag un tocyn cyfaill am ddim. Mae’r gweinyddwr yn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hadolygu’n deg, yn effeithlon ac yn unol ag ymrwymiad Hynt i hygyrchedd a chynhwysiant.

GWYBODAETH AM HYNT
Mae Hynt yn gynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a reolir gan Creu Cymru. Mae’n sicrhau bod tocynnau hygyrch a chyson ar gael i unigolion sydd â nam neu ofynion hygyrchedd penodol mewn theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru. Mae’r cynllun yn darparu cerdyn aelodaeth sy’n rhoi tocyn cyfaill am ddim i ddeiliaid.

GWYBODAETH AM CREU CYMRU
Mae Creu Cymru yn hybu’r sector celfyddydau perfformio bywiog yng Nghymru; gan gysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau.

Mae ein haelodaeth yn ffurfio rhwydwaith cydweithredol; gyda llais cryfach ac unedig y byddwn yn ei gyflwyno ac yn ei eiriol ar ei ran gyda chyrff llywodraethu cyhoeddus, gan sicrhau cynrychiolaeth hanfodol i’r diwydiant a dylanwadu ar newid cadarnhaol.

Mae Creu Cymru yn cefnogi lleoliadau, cwmnïau ac unigolion mewn strategaethau twf blaengar. Mae ein cyfleoedd ‘Mynd a Gweld’, hyfforddiant arbenigol ac adnoddau cymorth yn datblygu sgiliau a phrofiad cyfun ein gweithlu creadigol. Mae hyn yn sicrhau bod rhaglenni ar draws y sector yn parhau i esblygu gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb, perthnasedd a chynhwysiant i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

CYFLAFAREDDU
Mae cyflafareddu ar gael ar gyfer cwsmeriaid sydd ag anghenion mynediad nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y meini prawf cymhwysedd awtomatig, neu y gwrthodwyd eu cais gwreiddiol. Mae cyflafareddu hefyd yn galluogi Hynt i ddarparu mwy nag un tocyn am ddim i unigolion sydd angen mwy na gofal 1 i 1.

Y BROSES GYFLAFAREDDU

  1. Mae’r Card Network yn derbyn cais sydd angen ei atgyfeirio at y gwasanaeth Cyflafareddu
  2. Mae’r cwsmer yn cael gwybod bod ei gais wedi cael ei atgyfeirio. Mae Gweinyddwr Cyflafareddu Hynt hefyd yn cael gwybod ac yn cael manylion cyswllt y cwsmer.
  3. Mae Gweinyddwr Cyflafareddu Hynt yn cysylltu â’r cwsmer ac yn dechrau’r broses Gyflafareddu
  4. Mae Gweinyddwr Cyflafareddu Hynt yn dod i benderfyniad ac yn rhoi gwybod i’r Card Network.
  5. Mae’r Card Network yn prosesu’r cais yn unol ag unrhyw argymhellion gan Weinyddwr Cyflafareddu Hynt, neu (gyda mewnbwn gan Weinyddwr Cyflafareddu Hynt) mae’n cysylltu â’r cwsmer i roi gwybod iddo am y penderfyniad. Os yw’r cwsmer wedi cysylltu â Gweinyddwr Prosiect Hynt, bydd hefyd yn rhoi gwybod i’r cwsmer am statws ei gais.
  6. Mae Gweinyddwr Prosiectau Hynt yn cael y ffigurau Cyflafareddu drwy ddiweddariadau misol gan The Card Network ac yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am broblemau drwy gynnal adolygiadau gyda Gweinyddwr Cyflafareddu Hynt.

Y Prif Gyfrifoldebau

  • Rheoli a monitro’r broses gyflafareddu ar ran Creu Cymru.
  • Adolygu ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio, a rhoi gwybod am benderfyniadau i’r Card Network i’w prosesu.
  • Cysylltu ag ymgeiswyr, gan ddarparu diweddariadau clir ar eu statws cyflafareddu.
  • Sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cyflafareddu yn cyd-fynd â pholisïau Hynt ar hygyrchedd a chynhwysiant.
  • Cynnal fframwaith sicrhau ansawdd priodol ar gyfer cyflafareddu.
  • Olrhain tueddiadau a materion sy’n codi o achosion cyflafareddu, gan adrodd ar wybodaeth i Creu Cymru i wella’r broses ymgeisio.
  • Cymryd rhan mewn adolygiadau misol o’r broses gyflafareddu gyda Creu Cymru.
  • Cydweithio â Creu Cymru i sicrhau bod y system gyflafareddu yn parhau i fod yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn addas i’r diben.

Profiad a Sgiliau Hanfodol

  • Dealltwriaeth gadarn o hawliau o ran hygyrchedd ac anabledd, yn enwedig yn y sector celfyddydau.
  • Profiad o reoli achosion, cyflafareddu, neu faes cysylltiedig.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i ymgysylltu’n sensitif ag ymgeiswyr.
  • Trefnus ac yn canolbwyntio ar fanylion, gan sicrhau bod cofnodion ac adroddiadau’n cael eu cadw’n gywir.
  • Gallu gweithio’n annibynnol wrth gydweithio â nifer o randdeiliaid.
  • Mae profiad uniongyrchol o anabledd yn ddymunol iawn, yn ogystal ag ymrwymiad cryf i hygyrchedd a chynhwysiant.
  • Mae profiad mewn swydd weinyddol neu eiriolaeth debyg yn y trydydd sector, y celfyddydau neu wasanaethau anabledd yn ddymunol.

Rhinweddau Personol

  • Arweinyddiaeth: Ysbrydoli hyder ac ysgogi eraill i fabwysiadu arferion amrywiaeth a chydraddoldeb.
  • Hyblygrwydd: Cyfforddus yn gweithio mewn swydd ddeinamig sy’n esblygu.
  • Empathi a Chynwysoldeb: Dangos dealltwriaeth o safbwyntiau amrywiol a meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Gwydnwch: Cynnal ffocws a phenderfyniad i ysgogi newid yng nghanol heriau.

AMSERLENNI
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16 Mai 2025

Dyddiad y cyfweliadau: 28 Mai 2025

Rydym ni’n chwilio am rywun i ddechrau ar: Mehefin 2025

CEISIADAU
Anfonwch eich CV, llythyr eglurhaol yn egluro eich profiad perthnasol (dim mwy na 3 tudalen) ac unrhyw wybodaeth ategol yr hoffech ei chynnwys, ynghyd â’ch argaeledd, at yvonne@creucymru.com 

Cofiwch gynnwys yr hyn y byddai ei angen arnom i’ch helpu i wneud eich gwaith gorau.