The words written in white The Theatre Green Book in Wales yng Nghymru on a green background
Hyfforddiant Theatre Green Book
Digwyddiad: digwyddiadau
Mer, 09/07/2025 - 10:30yb-Mer, 09/07/2025 - 02:30yp
Theatr Glan yr Afon, Casnewydd

Gwybodaeth am y digwyddiad

£22.50 i aelodau / £30 i’r rheini nad ydynt yn aelodau. Darperir lluniaeth a chinio ysgafn.

Bydd y diwrnod yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r cynllun, gan gynnwys edrych yn fanwl ar sut i ddefnyddio’r wefan a chofrestru, a throsolwg o’r cyfrifianellau cynhyrchu, gweithrediadau ac adeiladau
  • Integreiddio Theatre Green Book: Sut i sicrhau cefnogaeth timau artistig, sut i feithrin ethos y cynllun ar draws y tîm cyfan mewn adeilad/cwmni theatr
  • Teithio Gwyrdd: sut i leihau allyriadau carbon wrth deithio, sut i sefydlu perthynas 'werdd' dda gyda lleoliadau ar eich taith, sut i sicrhau ymrwymiad gan gwmnïau sy'n ymweld
  • Y diweddaraf am weithgarwch Theatre Green Book yng Nghymru, sesiwn rhwydweithio