
Gwybodaeth am y digwyddiad
24ain Mai -1 Mehefin
Imaginate yw’r sefydliad cenedlaethol yn yr Alban, sy’n datblygu, yn dathlu ac yn cyflwyno theatr a dawns i blant a phobl ifanc.
Pecynnau cynrychiolwyr tro cyntaf
I helpu cynrychiolwyr newydd lywio’r Ŵyl am y tro cyntaf, rydym yn cynnig pecynnau wedi’u cynnal y gellir eu harchebu am un diwrnod (uchafswm o 1 fesul cynrychiolydd). Mae opsiwn hefyd i archebu hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn ar ddydd Mawrth. Cynhelir y pecynnau hyn gan staff Imaginate mewn grwpiau o 5 cynrychiolydd a byddant yn cynnwys cyfarfod croeso, perfformiadau’r Ŵyl a digwyddiadau i gynrychiolwyr.
Mae’r pecyn yn cynnwys eich ffi cynrychiolydd a £150 tuag at eich costau teithio a llety.
Nifer y lleoedd: 5
Neu
Os hoffech guradu eich taith eich hun, mae gennym 4 lle ar gael ar gyfer bwrsariaethau gwerth £200 i fynychu tuag at eich costau tocynnau, teithio a llety.
Amodau
Un fwrsariaeth fesul sefydliad.
Mae’r cyfle hwn ar gael i Aelodau Llawn a Chyswllt yn unig.
Y cyfan a ofynnwn yn gyfnewid am eich bwrsariaeth yw adroddiad byr y gallwn ei ddefnyddio ar wefan Creu Cymru sy’n rhannu’r hyn a ddysgwch o’r ŵyl, digwyddiad, perfformiad neu gynhadledd a thysteb y gallem ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
I wneud cais danfonwch ebost i yvonne@creucymru.com