
Gwybodaeth am y swydd :
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi artist dawns profiadol i gynorthwyo gyda llywio a chefnogi rhaglen gweithgareddau ymgysylltu'r Cwmni.
Bydd yr Artist Ymgysylltu yn gweinyddu, cyflwyno ac arwain yn artistig, y rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc (ein hyfforddiant dawns lefel uchel i’r oedran 13-18), a’n digwyddiad perfformio LANSIO, a bydd yn ffigwr allweddol wrth gefnogi llwybrau datblygu i ddawnswyr ifanc.
Swydd barhaol 2 ddiwrnod yr wythnos (15 awr) hyd at 31 Awst 2025. 3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr) o 1af Medi 2025. Yr oriau i gynnwys bron bob dydd Sul o fis Medi - Ebrill.
Cyflog £30,000 (pro rata)
Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cwmni Cyfyngedig cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419
Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227
Am ragor o wybodaeth ac am becyn ymgeisio, ewch i'n gwefan