Delwedd allanol o Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr (Rhyngwladol)
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
12 Mehefin

Gwybodaeth am y swydd :

Cyflog:  £34,132 - £39,355

Disgrifiad swydd

Y swydd
Rydym yn chwilio am reolwr recriwtio myfyrwyr profiadol a chanolbwyntiedig ar dargedau i ymuno â thîm Recriwtio Myfyrwyr a Phartneriaethau yn RWCMD. Un o brif ddibenion y rôl hon fydd codi proffil y Coleg a chefnogi twf derbyn myfyrwyr ar draws ardaloedd blaenoriaeth. Bydd gennych brofiad o weithio ym myd addysg uwch ac yn gallu adnabod cyfleoedd datblygu busnes i gynorthwyo recriwtio.

Dyfernir y rôl hon yng Nghaerdydd ar sail hybrid, a bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich holl sgiliau a phrofiad yn y datblygiad parhaus o'r Coleg. Mae hwn yn swydd barhaol llawn amser. Gellir ystyried rhannu swydd.

Y Coleg
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) yn rhoi hyfforddiant arloesol yn seiliedig ar berfformio i fwy nag 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n denu cynulleidfaoedd o 60,000 a mwy o bobl y flwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barcdir trefol hardd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas.

Gyda hanes unigryw a nodedig o 75 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys bod yn ysgol ddrama orau'r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian ar sawl achlysur, mae'r Coleg yn y degawd diwethaf wedi dod yn sefydliad diwylliannol o bwys yng Nghymru - gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â’r diwydiant, a rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. Mae'r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy'n barod ar gyfer y diwydiant a gyrfaoedd rhyngwladol. 

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg. 

Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg.  Os ydych chi’n ymgeisydd mewnol ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Byddwch chi’n parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.  Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.

Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Dewch i ddarganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: kara.bassett@rwcmd.ac.uk