Symposiwm hynt
dydd Mawrth, 05 Mawrth 11:00–16:00
Casnewydd
Gwybodaeth am y digwyddiad
Ymunwch ag arbenigwyr y diwydiant yn Symposiwm Hynt 2024. Delfrydol ar gyfer lleoliadau aelodau Hynt, aelodau cyswllt, gweithwyr llawrydd a’r sector ehangach. O ddiddordeb arbennig i’r rheini sy’n gweithio ym maes rhaglennu, marchnata, cyfranogi ac ymgysylltu. Yn cynnwys siaradwyr sy’n gweithio ym maes dawns, theatr a cherddoriaeth. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am All In, cynllun mynediad sydd ar gael ledled y DU. Cewch eich ysbrydoli gan y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Hijinx NAWA, Ballet Cymru a Paraorchestra. Ymchwiliwch i’r arferion gorau ar gyfer perfformiadau sy’n cael eu dehongli gan BSL, teithiau a ffyrdd o hyrwyddo’r rhain.
Dehonglwyr BSL: Stephen Brattan-Wilson ac Adrian Bailey
Tocynnau: £10 - £35