
Gwybodaeth am y swydd :
Cyflog: £34,132 - £39,355
Disgrifiad swydd
Y swydd
Rydym yn awyddus i benodi Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Cynorthwyol sy’n unigolyn cadarn a pharod i addasu. Gan weithio mewn tîm bach o weithwyr proffesiynol ym maes niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lwyth achosion o fyfyrwyr a bydd yn darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis a’r rhai sy’n profi anawsterau o ran llesiant. Bydd yn hwyluso mynediad at astudio ac yn cynorthwyo i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arweiniad iechyd meddwl ar draws y sefydliad. Bydd yn cefnogi’r Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr i weithredu’r gwasanaeth yn briodol o ddydd i ddydd.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol, aelodaeth broffesiynol addas, a bod yn ymarferydd iechyd meddwl profiadol. Byddai profiad o weithio mewn lleoliadau addysg i oedolion neu yn y gymuned yn fanteisiol. Mae arbenigedd mewn iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, a'r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr mewn cyd-destun addysg uwch, yn hanfodol. Mae angen sgiliau TG a gweinyddu rhagorol ar gyfer y rôl.
Bydd y rôl hon, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac ar sail hybrid, yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich ystod o sgiliau fel ymarferydd iechyd meddwl arbenigol. Mae hon yn swydd barhaol a llawn-amser. Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried.
Y coleg
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) yn rhoi hyfforddiant arloesol yn seiliedig ar berfformio i fwy nag 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n denu cynulleidfaoedd o dros 60,000 o bobl y flwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, yn edrych dros barcdir trefol hardd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas.
Gyda hanes unigryw a nodedig o 75 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys bod yn ysgol ddrama orau'r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian ar sawl achlysur, mae'r Coleg yn y degawd diwethaf wedi dod yn sefydliad diwylliannol o bwys yng Nghymru - gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â’r diwydiant, a rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. Mae'r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy'n barod ar gyfer y diwydiant a gyrfaoedd rhyngwladol.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd mewnol ar gyfer y gwasanaethau proffesiynol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Darganfod beth yw manteision gweithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: student.services@rwcmd.ac.uk