Collage of various images including theatre exteriors and people enjoying the arts
Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant - Datganiad

Mae Creu Cymru yn croesawu'r adroddiad ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Creu Cymru yn croesawu’n fawr y cyhoeddiad a wnaed gan Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ynghylch cyhoeddi’r adroddiad ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’, sy’n cynnwys dyrannu cronfa buddsoddi cyfalaf strategol gwerth £8 miliwn i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn brawf o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i feithrin a chynnal y sector celfyddydau yng Nghymru.

Ers blynyddoedd lawer, mae Creu Cymru wedi bod yn eirioli dros fwy o gyllid a chefnogaeth i’r celfyddydau. Rydym ni’n credu y bydd y buddsoddiad cyfalaf strategol hwn yn rhan hollbwysig o’r gwaith o wella’r seilwaith a’r adnoddau sydd ar gael i sefydliadau celfyddydol ledled Cymru, gan eu galluogi i ffynnu a pharhau i gyfoethogi ein cymunedau.

Mae'r adroddiad ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu tair prif flaenoriaeth: Mae Diwylliant yn Dod â Ni Ynghyd, Cenedl Diwylliant, ac Mae Diwylliant yn Gydnerth ac yn Gynaliadwy. Mae’r blaenoriaethau hyn, a ategir gan 20 uchelgais, yn adlewyrchu gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer dyfodol diwylliant yng Nghymru. Mae’r pwyslais ar allu diwylliant i gryfhau cysylltiadau cymunedol, ac i hyrwyddo cynhwysiant, yn arbennig o galonogol.

Mae adroddiadau diweddar, fel Cipolwg ar y Sector a gyhoeddwyd gennym ni, yn tynnu sylw at yr heriau difrifol sy’n wynebu'r sector celfyddydau, ac at gadernid rhyfeddol y sector yng nghanol pwysau ariannol parhaus. Hefyd mae adroddiad ‘Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon’, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn tanlinellu’r angen hollbwysig am fuddsoddiad parhaus yn y celfyddydau. Mae cais Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am Ddeddf Diwylliant yn pwysleisio ymhellach bwysigrwydd sefydlu diwylliant ym maes gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau mynediad teg i bawb.

Mae’r celfyddydau yn gwneud mwy na dim ond darparu adloniant; maen nhw’n rhan hanfodol o’n hunaniaeth ddiwylliannol a’n gwead cymdeithasol. Maen nhw’n cyfrannu at ein llesiant, yn meithrin creadigrwydd ac yn sbarduno twf economaidd. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod y celfyddydau’n dal yn hygyrch i bawb, ac yn meithrin cyd-destun diwylliannol bywiog a chynhwysol.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y cynllun hwn, mae’n hollbwysig datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr. Dylai’r cynllun hwn amlinellu amcanion, amserlenni a chyfrifoldebau clir, gan sicrhau bod y buddsoddiad cyfalaf strategol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gydweithio â rhanddeiliaid i greu’r cynllun hwn, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd drwy gydol y broses.

Rydym yn annog yr holl randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, grwpiau cymunedol ac arweinwyr diwylliannol, i ymuno â ni yn yr ymdrech hon. Drwy gydweithio a rhannu adnoddau, gallwn sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cyflawni ei botensial yn llawn. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i greu sector celfyddydau sy’n ffynnu ac sydd o fudd i bawb yng Nghymru. Mae eich cefnogaeth a’ch cyfraniad gweithredol chi yn hollbwysig er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn cael yr effaith orau bosibl. Gyda’n gilydd, gallwn greu sector celfyddydau cadarn a deinamig sy’n adlewyrchu amrywiaeth a chreadigrwydd Cymru.

Hoffai Creu Cymru ddiolch i Lywodraeth Cymru am gydnabod pwysigrwydd y celfyddydau, ac am gymryd y cam beiddgar hwn i ddiogelu eu dyfodol. Rydym yn dal yn ymrwymedig i eirioli dros y celfyddydau a chefnogi ein haelodau gyda’u gwaith amhrisiadwy.

Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru 21 Mai 2025