
Llwyddiannau Creu Cymru yn 2024/25
Mae 2024/25 wedi bod yn flwyddyn brysur i’r tîm. Dyma oedd blwyddyn gyntaf ein cytundeb cyllido amlflwyddyn gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, a oedd yn golygu ein bod yn gallu cynyddu ein gwasanaethau a’n cefnogaeth i aelodau. Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn:
Bwrsariaethau a Chefnogaeth i Aelodau
- Cynnig bwrsariaethau agored i aelodau fynychu cynadleddau, sioeau a gwyliau.
- Cefnogi presenoldeb yng Nghynhadledd AMA, Expo Gwerin y DU a Chynhadledd Cynhyrchu Refeniw Theatr y DU.
- Darparu llety â chymhorthdal a chyfleoedd rhwydweithio yng Ngŵyl Caeredin.
Cynllun Dawns ar Daith Wledig
- Gweithio mewn partneriaeth â RDTI i gynyddu perfformiadau dawns yng nghefn gwlad Cymru.
- Sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni dawns gyfoes â chymhorthdal mewn tri lleoliad yn 2025-2026.
- Ceisio ehangu cynulleidfaoedd dawns a hyrwyddo cynhwysiant.
Ehangu Ymgysylltiad a Hygyrchedd
- Datblygu Polisi Amrywiaeth ar gyfer Siaradwyr.
- Cwblhau rhaglen Gwrth-hiliaeth yn y Celfyddydau Cyngor Hil Cymru, Mentora o Chwith.
- Trefnu Fforymau Mynediad i drafod lleoliadau heb arian parod, ymwybyddiaeth o anabledd a chynlluniau hygyrchedd.
- Rhedeg Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd a Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
- Curadu siaradwyr ar gyfer y Symposiwm Hynt a chydlynu hyfforddiant hygyrchedd.
- Gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU ar ddatblygu’r cynllun mynediad cenedlaethol ‘All In’.
- Mae Hynt wedi cyrraedd rownd derfynol categori Diwylliant Gwobrau Dewi Sant
Mentrau Iaith Gymraeg
- Mae cyfieithu yn 50% o’r cyfarfodydd aelodau bellach, gyda chynlluniau i gynyddu hyn ymhellach.
- Gweithio tuag at ein statws Cynnig Cymraeg.
Cyfiawnder Hinsawdd a Chynaliadwyedd
- Cyflawni sgôr A am effaith carbon gwefan.
- Sefydlu proses monitro moesegol ar gyfer cyflenwyr.
- Cefnogi digwyddiadau Theatrau yng Nghymru a’r Argyfwng Hinsawdd.
- Gweithio mewn partneriaeth â’r Theatre Green Book i ehangu ei ddefnydd yng Nghymru.
- Sicrhau cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Hyrwyddwr Theatre Green Book Cymru a digwyddiadau hyfforddi cysylltiedig.
- Gweithio mewn partneriaeth ar ymchwil i bwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau celfyddydol.
Cynhadledd Creu Cymru
- Cynnal cynhadledd ddeuddydd lwyddiannus yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
- Siaradwyr a gweithdai uchel eu proffil.
- Adborth cadarnhaol ar strwythur y digwyddiad, cyfleoedd rhwydweithio, a dull gweithredu dwyieithog.
Hyfforddiant a Datblygu
- Cynnal digwyddiadau rhannu gwybodaeth ar werthoedd sefydliadol, gwirfoddoli, a Rhyddhad Treth Theatr.
- Cynnal Rhaglen Llesiant 6 wythnos am ddim, yn ymdrin â gwydnwch, rheoli straen a hunanofal.
- Gweithio mewn partneriaeth â PiPA i gyflwyno Menter PiPA Cymru i wella amodau i rieni a gofalwyr yn y celfyddydau.
- CIISA (Awdurdod Safonau Annibynnol y Diwydiannau Creadigol) Mae Louise wedi parhau i fynychu a chyfrannu at weithgor CIISA wrth i’r Safonau gael eu datblygu.
Eiriolaeth a Dylanwadu ar Bolisi
- Ymgysylltu â Phwyllgor Diwylliant y Senedd a Llywodraeth Cymru ar heriau cyllido.
- Cyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriad Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant.
- Mynychu Gwobrau Sky Arts, oherwydd bod Yvonne wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Arwr y Celfyddydau.
- Cyfrannu at astudiaeth achos EDI Creative UK ar hygyrchedd.
Ymchwil i Heriau’r Sector
- Cynnal ymchwil i effaith toriadau cyllid a chostau cynyddol ar y gweithlu, lleoliadau a chynulleidfaoedd.
- Canfod tueddiadau sy’n effeithio ar gyflogau, recriwtio, costau ynni, ac allgymorth cymunedol.