Galeri Caernarfon
APW

cysylltu â ni’

Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ
01286 685222

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy'n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu.

Datblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad £7.5m, yn dynodi datblygiad arwyddocaol i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yng Ngogledd Cymru.

Mae adeilad Galeri yn cynnwys:
- Theatr a sinema 394 o seddi
- 24 o unedau swyddfa
- Safle Celf
- 2 stiwdio ymarfer fawr
- 3 ystafell ymarfer llai o faint
- Ystafelloedd cyfarfod
- Café Bar

Ym mis Medi 2018 agorwyd estyniad newydd ar safle Galeri. Mae’r estyniad yn cynnwys 2 sinema pwrpasol (119 a 65 sedd) yn ogystal a Safle Creu, Swyddfa Docynnau newydd, gofod arddangos celf/crefft ac ystafell gyfarfod i 12 person.

Mae’r rhaglen sinema bellach yn cynnig darpariaeth fwy eang a chyson o ffilmiau amrywiol – gan gynnwys ffilmiau newydd sbon. Mae rhaglen artistig Galeri yn cynnwys amrywiaeth o gelfyddyd yn cynnwys theatr, ffilm, cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, llenyddiaeth, arddangosfeydd, gweithdai a chyrsiau byr.

Mae rhaglen artistig Galeri yn cynnwys amrywiaeth o gelfyddyd yn cynnwys theatr, ffilm, cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, llenyddiaeth, arddangosfeydd, gwethdai a chyrsiau byr.