Cwmni'r Frân Wen
APW
cysylltu â ni’
Yr Hen Ysgol, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy,
Ynys Môn,
LL59 5HS
01248 715048

Mae Frân Wen yn gwmni theatr wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru sy'n creu theatr eofn gyda ac ar gyfer plant a phobl ifanc.
Rydym yn dod â phobl ifanc, artistiaid a chymunedau at ei gilydd gan wrando a siarad am yr hyn mae'n ei olygu i fod yn ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw gan ymateb trwy greu theatr eofn yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn rhannu'r profiad mor eang ag y gallwn ddychmygu gan ein bod yn credu y gall pawb ddysgu gan bobl ifanc, artistiaid a chymunedau sydd am greu dyfodol newydd. Rydym yn grymuso pobl ifanc, artistiaid a chymunedau i fentro a mynd y tu hwnt i'r amlwg oherwydd mae wastad rhywbeth newydd i'w ddarganfod.