cysylltu â ni’
Mae Pontio yn ganolfan gelfyddydol aml gyfrwng a sinema yng nghanol Bangor. Yn adran o Brifysgol Bangor, mae Pontio nawr yn bum mlwydd oed ac yn ofod byrlymus, hyblyg a llawn egni. Fel canolfan gelfyddydol, rydym yn croesawu gwaith teithiol o’r ardal leol, yn genedlaethol a ryngwladol, yn ogystal â chomisiynu gwaith newydd gan a chyda ystod eang o artistiaid a sefydliadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl Bangor a’r ardal ehangach i ddarparu adnodd gwerthfawr i’r holl gymuned leol.
Rydym yn rhaglennu gwaith ar draws y ffurfiau celfyddydol, gan gyflwyno gwaith gan ystod eang ac amrywiol o artistiaid a sefydliadau deinamig. Mae hyn yn cynnwys dawns, ffilm, celf weledol, celf ddigidol, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth gyfoes, gwaith arbrofol, syrcas, dawns fertigol a theatr Cymraeg, Saesneg ac amlieithog.