
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd â nam neu ofyniad mynediad penodol, a'u Gofalwyr neu Gynorthwywyr Personol.

Ym mis Mawrth 2014, penodwyd Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu menter fynediad newydd ar draws y sectorau theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Ar ôl cyfnod ymchwil a ymgymerwyd â hi yn 2013 i hyfywedd prosiect o’r fath, y fenter hon yw ymateb CCC i’r argymhellion a wnaethpwyd.
Mae wedi cael ei hysbysebu fel cynllun mynediad cenedlaethol, ond yn fwy na hynny, mae Hynt yn gynllun arloesol dan arweiniad cymheiriaid sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o a gwybodaeth am anghenion cynulleidfaoedd sydd ag anabledd neu nam. Prif nod Hynt yw cael gwared â’r rhwystrau sy’n dal y cynulleidfaoedd hynny’n ôl rhag mwynhau popeth y gall y celfyddydau a diwylliant ei gynnig, gan agor gofodau diwylliannol a rhoi’r cyfle i bobl i gael profiadau ystyrlon, cofiadwy ac ysbrydoledig.
Rydym am gydweithio â theatrau, canolfannau celfyddydau a chymunedau ar draws Cymru yr effeithir arnynt gan y cynllun i ddatblygu’r cynnig ar gyfer y fenter ymhellach.
Mae’n bwysig i ni fod Hynt dan arweiniad cymheiriaid, yn ymateb yn gadarnhaol i adborth ac yn rhoi ystyriaeth i farn ein holl randdeiliaid.
Drwy gydol y broses ddatblygu hon, rydym am siarad â chynifer o randdeiliaid ag sy’n bosibl fel y gallwn wneud yn siŵr bod Hynt mor effeithiol ag y bo modd ac yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd, theatrau a chanolfannau celfyddydau.

Ynghynt eleni, buom yn cynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu a ddarparodd gryn dipyn o wybodaeth i ni gan ein helpu i ddeall yr amrywiaeth eang o brofiadau a heriau rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym hefyd wedi elwa ar gyfarfod â nifer mawr o sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod yn hael wrth rannu eu harbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau â ni i helpu i ddatblygu a chefnogi’r cynllun. Bydd y dull cydweithredol a chynhwysol hwn yn allweddol i lwyddiant Hynt yn y dyfodol.
Rydym bellach wedi llunio adroddiad sy’n dwyn at ei gilydd yr holl faterion rydym wedi bod yn ymrafael â nhw ac sy’n amlinellu’r gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, gan agor ein syniadaeth a chynnig cyfle i ymgynghori ymhellach. Dyma gychwyn sgwrs barhaus; rydym yn gwybod y byddwn yn gorfod parhau i addasu a datblygu.
Rydym am rannu’r adroddiad hwn â chynifer o bobl sydd â diddordeb â phosibl. Gobeithiwn ei fod yn egluro’r prosiect a’n cyfeiriad i’r dyfodol.
Cynhwysir manylion am sut i adborthi unrhyw sylwadau neu feddyliau eraill a all fod gennych yn yr Adroddiad.

If you have any questions or would like any further information please contact:
Megan Merrett, Projects Administrator; megan@creucymru.com