Mae Creu Cymru yn croesawu’r cyfle i gefnogi myfyrwyr mewn Addysg Uwch, graddedigion neu bobl greadigol ym mlynyddoedd cynnar eu hastudiaethau neu eu gyrfa drwy gynnig cyfleoedd i gefnogi ein digwyddiadau a’n gweithgareddau yn gyfnewid am brofiad gwerthfawr yn y diwydiant.
Cyfleoedd
Symposiwm Hynt
Beth: Cynhadledd undydd flynyddol i rannu arferion gorau ar gyfer aelodau lleoliadau Hynt, gan glywed gan arbenigwyr, aelodau, y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol.
Pryd: Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024 (tua 10am-4pm)
Ble: Y Muni, Pontypridd
Sut mae cymryd rhan: Rydyn ni’n dîm bach ac yn aml mae angen cymorth arnom yn ein digwyddiadau. Mae’r meysydd i gymryd rhan ynddynt yn cynnwys marchnata a hyrwyddo cyn y digwyddiad, cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, cymorth i westeion, cyswllt â siaradwyr a rhedwyr cyffredinol.
Byddwch yn gallu dod i’r digwyddiad, rhwydweithio a dysgu gan y rhai sydd yn yr ystafell yn ogystal â chael profiad o reoli digwyddiadau a’r celfyddydau.
Cynhadledd Flynyddol Creu Cymru
Beth: Nod Cynhadledd Creu Cymru yw dod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws y celfyddydau perfformio yng Nghymru at ei gilydd. Bydd y Gynhadledd yn cynnig cyfleoedd i glywed am fentrau anhygoel, arferion gorau a digwyddiadau diwylliannol gwych yn y sector. Bydd siaradwyr gwadd, sesiynau panel, gweithdai, perfformiad a derbyniad â diodydd ar y noson agoriadol.
Pryd: 2 a 3 Ebrill 2025. Gellir gosod a pharatoi o 11am ymlaen, gan orffen tua 4pm ar y 3ydd.
Ble: Canolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Sut mae cymryd rhan: Mae’r meysydd i gymryd rhan ynddynt yn cynnwys marchnata a hyrwyddo cyn y digwyddiad, cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, cymorth i westeion, cyswllt â siaradwyr a rhedwyr cyffredinol.
Gallwch ddod i’r digwyddiad, rhwydweithio a dysgu gan y rhai sydd yn yr ystafell yn ogystal â chael profiad o reoli digwyddiadau a’r celfyddydau. Mae croeso i chi fod yno am un neu ddau ddiwrnod.
Cymysgu a Chyflwyno
Beth: Casgliad o wneuthurwyr theatr, cynhyrchwyr a rhaglenwyr theatr.
Bydd y digwyddiad Cymysgu a Chyflwyno’n cynnwys cyflwyniadau 5 munud gan wneuthurwyr theatr a chyflwyniadau lleoliad rhwng 2 a 5 munud gyda’r nod o rannu syniadau newydd ac annog y cysylltiadau i’w gwireddu. Bydd cyflwyniadau’n dod gan wneuthurwyr theatr, cynhyrchwyr a lleoliadau mewn ysbryd o fod yn agored a chydweithio, gan sicrhau ei fod yn ddigwyddiad gwerthfawr p’un a ydych chi’n cyflwyno syniad ai peidio.
Pryd: Chwefror 2025 (dyddiad i’w gadarnhau)
Ble: I’w gadarnhau
Sut mae cymryd rhan: Mae’r meysydd i gymryd rhan ynddynt yn cynnwys marchnata a hyrwyddo cyn y digwyddiad, cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, a rhedwyr cyffredinol.
Gallwch ddod i’r digwyddiad, rhwydweithio a dysgu gan y rhai sydd yn yr ystafell yn ogystal â chael profiad o reoli digwyddiadau a’r celfyddydau.
Cymorth Ad Hoc Arall
Yn aml, ceir prosiectau ymchwil desg a thasgau gweinyddol ad hoc eraill a allai gefnogi ein gwaith a’n haelodau. Cysylltwch â ni i weld pa gyfleoedd a allai fod ar gael ar y pryd. Rydyn ni’n sefydliad gweithio gartref heb swyddfa sefydlog felly bydd angen i chi gael mynediad at TG a lle i weithio.
Bydd costau teithio a bwyd ar y diwrnod yn cael eu darparu mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, anfonwch e-bost at louise@creucymru.com i gael sgwrs anffurfiol.