A man and two women sat at a table with a laptop talking
Menter PiPA Cymru: sesiwn 3
Digwyddiad: digwyddiadau
dydd Mercher, 15 Ionawr 10:00–11:30
Ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Ymunwch â ni ar gyfer y drydedd sesiwn. Does dim gwahaniaeth os nad ydych chi wedi bod yn y sesiynau blaenorol. 

Ymunwch â’r Mudiad dros Newid yn y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru: Menter PiPA Cymru

Ydych chi’n ymarferydd yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru sy’n gweithio naill ai’n llawrydd neu i sefydliad? Ydych chi’n wynebu heriau wrth gefnogi eich gweithlu sy’n rhieni/ gofalwyr, neu’n cael trafferth rheoli eich cyfrifoldebau gofalu eich hun?  Rydym ni’n lansio rhaglen gyffrous newydd sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ei nod yw sicrhau newid go iawn o ran gwneud y celfyddydau perfformio yng Nghymru yn gyflogwr sy’n fwy ystyriol o deuluoedd – ac mae angen eich llais chi arnom ni!

 

Y Rhaglen
Mewn cydweithrediad â Creu Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym ni’n lansio rhaglen lefel mynediad i bobl sy’n creu newid. Nod y fenter hon yw:

  • Codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae rhieni a gofalwyr yn eu hwynebu.
  • Datblygu strategaethau i gefnogi gofalwyr yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
  • Adeiladu rhwydwaith a fydd yn creu dyfodol sy’n ystyriol o deuluoedd i’r sector.

Mae’r rhaglen yn ddi-dâl ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer trawsnewid a meithrin talent, a bydd yn addasu gwersi o’n gwaith llwyddiannus yn Lloegr a’r Alban.

Cysylltwch ag Yvonne ar yvonne@creucymru.com i gael y ddolen Zoom, neu cadwch lygad am y wybodaeth yn ein Cylchlythyr nesaf.