
Gwybodaeth am y digwyddiad
Pris
Tocyn safonol - £60
Tocyn llawrydd - £25
Tocyn heb aelodaeth - £70
Bydd y pris yn cynnwys lluniaeth (gan gynnwys diod croeso yn y derbyniad ar y noson agoriadol) a chinio ar yr ail ddiwrnod.
Ymunwch â ni am ddeuddydd llawn egni ym mhrif ddinas Cymru i gael eich ysbrydoli, i adfywio, i gysylltu ac i ddysgu.
Nod Cynhadledd Creu Cymru, a noddir gan Ticketsolve, yw dod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws y celfyddydau perfformio yng Nghymru at ei gilydd. Bydd y Gynhadledd yn cynnig cyfleoedd i glywed am fentrau anhygoel, arferion gorau a digwyddiadau diwylliannol gwych yn y sector. Bydd hefyd yn gyfle i rannu eich pryderon, eich rhwystredigaethau a’ch gwaith ar ffyrdd cadarnhaol o sbarduno newid yn ystod y cyfnod anodd hwn i’r sector.
Mae’r digwyddiad yn agored i aelodau Creu Cymru ac unrhyw un arall sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Josette Bushell-Mingo OBE (Pennaeth Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama), Suzanne Bell (Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd), Cassie Raine ac Anna Ehnold-Davailov (cyd-Brif Swyddogion Gweithredol yn PiPA - Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio), Alun Llwyd (Prif Weithredwr, PYST), David Massey (Uwch Gynhyrchydd Profiadau Digidol, Canolfan Mileniwm Cymru), Natalie Woolman (Golygydd Comisiynu yn The Space) a mwy.
Bydd sesiwn rhwydweithio cyflym a derbyniad â diodydd ar y noson agoriadol hefyd.
Bydd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol wedi recordio neges agoriadol i’r cynadleddwyr.
AGENDA I’W CHADARNHAU
Dydd Mercher 2 Ebrill
1.30-2pm – Cofrestru
2 – 2.15pm – Croeso a Chyflwyniadau – Lou Miles-Payne (Creu Cymru)
2.15-3.15pm – Prif Siaradwr Josette Bushell-Mingo OBE, Pennaeth Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama
3.15-3.30pm – Egwyl
3.30-4pm – Sesiwn datblygu artistiaid yng nghwmni Suzanne Bell, Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd
4-5.15pm – Rhwydweithio cyflym
5.30-7.30pm – Derbyniad â diodydd
Dydd Iau 3 Ebrill
9.30-10am – Cofrestru / rhwydweithio
10-10.30am – Cyfarfod cyffredinol blynyddol Creu Cymru
10.30-11.30am – Sesiwn Menter PiPA Cymru
11.30-11.45 – Egwyl
11.45-1pm – Sesiwn Banel: Y Theatr Ddigidol ar ôl y Pandemig: Arloesi, Heriau a Chyfleoedd
1pm-2pm – Cinio
2pm – Sylwadau clo
2.15pm – Diwedd / Profiad neu daith ddewisol yn y lleoliad
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg a gwasanaeth dehongli BSL ar gael.
Mynediad
Dehonglwyr BSL: Tony Evans a Caroline Richardson (2 Ebrill)
Tony Evans ac Emma Horton (3 Ebrill).
Mae gwasanaeth dehongli BSL ar gael wrth archebu.
I gael gwybodaeth am archebu lle parcio Bathodyn Glas, y gofod tawel sydd ar gael ar y diwrnod a nodweddion hygyrch eraill, ewch i wefan https://www.wmc.org.uk/cy/eich-ymweliad/hygyrchedd
Ein nod yw gwneud ein cynhadledd mor deg ag y gallwn, gan gynnwys dileu rhwystrau i fynediad ar gyfer ein cydweithwyr Byddar, anabl a niwro-amrywiol. Oherwydd amserlenni archebu rhai gwasanaethau ni allwn warantu unrhyw gefnogaeth ar gyfer archebion a wneir pythefnos neu lai i’r Gynhadledd.
Bwriedir i’r Gynhadledd fod yn ddigwyddiad ac yn amgylchedd ‘braf’. Mae hyn yn golygu y gall y cynadleddwyr wneud beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw er mwyn i’r gofod fod yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn groesawgar, ac er mwyn bodloni gofynion mynediad. Er enghraifft, mae croeso i chi symud, symbylu, a mynd a dod fel y mynnwch. Bydd man tawel y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg ar gael yn y lleoliad.
Os oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i ymateb i’ch gofynion mynediad, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at yvonne@creucymru.com
Sylwch fod gennym bolisi arlwyo llysieuol. Os oes gennych unrhyw ofynion deietegol ychwanegol neu alergeddau nodwch hynny wrth archebu.
Teithio
Os ydych chi’n aelod o Creu Cymru sy’n mynd i’r digwyddiad, a’ch bod yn teithio 50 o filltiroedd neu fwy bob ffordd o leoliad eich cwmni / cartref yng Nghymru, rydych chi’n gymwys i gael bwrsariaeth teithio o hyd at £20.
Hyn a hyn o gyllid sydd ar gael a bydd yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
I wneud cais am ffurflen bwrsariaeth neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com.
Cyfeiriad y lleoliad yw:
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Bae Caerdydd
CF10 5AL
Cynhelir y derbyniad â diodydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Llety
Travel Lodge: https://www.travelodge.co.uk/hotels/380/Cardiff-Atlantic-Wharf-hotel
Premier Inn: https://www.premierinn.com/gb/en/hotels/wales/glamorgan/cardiff/cardiff-bay.html?cid=GLBC_CARBAY
Dyma resymau dros ddod i’r Gynhadledd – rhwydweithio, datblygu gyrfa, gwerth am arian, cael eich ysbrydoli, mwynhad. Manteisiwch i’r eithaf ar eich aelodaeth, gall nifer o bobl o’ch sefydliad fynychu.
Cyfnewid safbwyntiau ar heriau a rennir.
Rhoi hwb i’ch rhwydwaith.
Dysgu, a datblygu eich sgiliau.
Lleoliad hyfryd yng nghymoedd de Cymru.
Cael gwybodaeth am y diwydiant.
Mwynhau!
Os ydych yn aros dros nos yng Nghaerdydd efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod bod Grand Ambitions a Theatr y Sherman yn cyflwyno eu cyd-gynhyrchiad newydd 'Hot Chicks' gan Rebecca Jade Hammond yn Theatr y Sherman rhwng 21 Mawrth a 5 Ebrill. Mae cynhyrchiad 7.30pm ar yr 2il a 3ydd Ebrill.
Diolch o galon i’n noddwyr Ticketsolve