
Gwybodaeth am y swydd :
Yn atebol i: Bwrdd Ymddiriedolwyr
Lleoliad gwaith: Tŷ Dawns, Bae Caerdydd
Cyfradd ffioedd: Yn seiliedig ar gyflog blynyddol o £50,000 pro rata
Oriau a chontract: Hyblyg 40-60% (15-22.5 awr) yr wythnos am gyfnod o 6-8 mis, tra bod y cwmni yn gorffen penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd (Prif Weithredwr ar y Cyd) ac yn recriwtio Cyfarwyddwr Gweithredol parhaol (Prif Weithredwr ar y Cyd)
Dyddiad cau: Nid oes dyddiad cau pendant am y swydd hon. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried wrth iddynt gael eu derbyn.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro (Prif Weithredwr ar y Cyd).
Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â sgiliau rheoli pobl, cyllid, rheoli newid, ac sydd â gwybodaeth am ffrydiau incwm niferus.
Bydd gennych brofiad sylweddol o arwain a byddwch yn hyderus ymhob agwedd o reolaeth ariannol. Byddwch mwy na thebyg wedi gweithio yn y maes celfyddydau a/neu trydydd sector ac wedi arfer arwain timau deinamig.
Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan https://ndcwales.co.uk/cy/Gyfarwyddwr-Gweithredol-Dros-Dro
Nid oes dyddiad cau pendant am y swydd hon. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried wrth iddynt gael eu derbyn.
Cwmni Cyfyngedig cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419
Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227