Aelodau'r gynulleidfa gyda'u dwylo yn yr awyr mewn Cyngerdd gyda goleuadau disglair
Diwylliant yn Gatalydd: Rôl y Celfyddydau wrth Siapio Dyfodol Cymru
Digwyddiad: digwyddiadau
Gwen, 10/10/2025 - 08:25yb-Gwen, 10/10/2025 - 09:30yb
Brangwyn Hall, Abertawe ( Ystafell Bwyllgor 6)

Gwybodaeth am y digwyddiad

Digwyddiad Ymylol Creu Cymru yng Nghynhadledd Plaid Cymru

Ymunwch â ni am drafodaeth banel ddeinamig yn edrych ar sut gall y celfyddydau siapio dyfodol Cymru. Mae'r digwyddiad ymylol hwn yn cael ei gynnal gan Creu Cymru, ac mae’n dod â lleisiau o bob rhan o'r sector diwylliannol at ei gilydd i sbarduno sgwrs am hunaniaeth, gweithredu, a grym trawsnewidiol creadigrwydd.

O adfywio economïau lleol i rymuso cymunedau ac ysbrydoli newid gwleidyddol, mae diwylliant yn sbardun cynnydd pwerus. Gyda'n gilydd, byddwn yn edrych ar sut gall ymarfer creadigol a pholisi diwylliannol weithio law yn llaw i greu Cymru fwy bywiog, cynhwysol, ac uchelgeisiol.

Bydd Heledd Fychan AC, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru ac aelod o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn cadeirio.

Dyma’r themâu y byddwn ni’n eu trafod:

  • Polisi ac Ymarfer: Beth sydd ei angen ar artistiaid a sefydliadau i ffynnu?
  • Cymuned ac Adfywio: Sut gall diwylliant fynd i’r afael â heriau cymdeithasol?
  • Effaith a Dychymyg: A all creadigrwydd lywio meddwl gwleidyddol?
  • Hunaniaeth ac Iaith: Sut mae'r celfyddydau'n cynnal hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg?

Byddwch yn rhan o’r sgwrs. Byddwch yn rhan o’r newid.

 

Bydd te, coffi, sudd a theisennau crwst ar gael.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

 

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Lisbeth McLean, Prif Weithredwraig, Canolfan Soar ac ymgeisydd Plaid Cymru - Etholiad y Senedd yn 2026.

Owain Gwilym, Cyfarwyddwr Gweithredol; Celfyddydau Anabledd Cymru

Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg

I'w cadarnhau

Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru

 

Fel rhan o hyn gallwn gael 25% i ffwrdd ar passes arsylwgwyr i’n haelodau fynychu’r Gynhadledd (£300 y person yn lle £400)

Anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com erbyn y 14eg Fedi os  ydych am fynychu.