cysylltu â ni’
Sefydlwyd Cwmni Theatr Arad Goch yn 1989 drwy uno dau o’r cwmnïau theatr hynaf yng Nghymru ar y pryd, Theatr Crwban a Chwmni Cyfri Tri. Prif nod y cwmni ers ei sefydlu yw darparu theatr Gymraeg a Chymreig o’r safon uchaf a hynny, yn bennaf, i blant a phobl ifanc. Mae’r cwmni yn cynhyrchu hyd at 5 cynhyrchiad mewn blwyddyn – rhai i ysgolion gorllewin Cymru, ac eraill yn gynyrchiadau cyhoeddus sy’n teithio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i theatrau. Yn ogystal, ar adegau penodol, mae’r cwmni yn cynhyrchu digwyddiadau / prosiectau ar raddfa fawr megis Gŵyl Hen Linell Bell a sioe gerdd Cysgu’n Brysur. Iaith weithio y cwmni yw’r Gymraeg. Bu’r cwmni yn flaengar wrth ddatblygu nifer o gynlluniau rhyngwladol. Sefydlwyd cysylltiadau â chwmnïau, gwyliau a pherfformwyr o dramor a sefydlodd y cwmni Agor Drysau / Opening Doors Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. https://agordrysau.cymru/. Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cydnabod y pwysigrwydd a’r budd a geir o gydweithio gyda asiantaethau a mudiadau eraill; mae gan y cwmni record llwyddiannus o gydweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid. Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn perfformio’n flynyddol i dros 24,000 o blant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae Canolfan Arad Goch yn cael ei hadnabod fel canolfan gymunedol greadigol, ac mae’n bosib llogi’r adeilad ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.
Theatr arbenigol i blant a phobl ifanc - cynhyrchiadau sydd yn teithio i ysgolion. Cynyrchiadau teuluol sy'n teithio theatrau Cymru gyfan, ac yn teithio dramor.