Funded by the Arts Council of Wales, through the innovative Connect and Flourish fund, Breaking the Box is a collaborative project with lead partner Taking Flight Theatre Company, venue partners Carmarthenshire Theatres, RCT Theatres and Pontio, our project Hynt, and independent partners.
Mae Breaking the Box yn brosiect cydweithredol sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy gronfa arloesol Cysylltu a Ffynnu. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys y partner arweiniol, Theatr Taking Flight, partneriaid lleoliadau fel Theatrau Sir Gâr, Theatrau RhCT, Pontio a Hynt, a phartneriaid annibynnol eraill.
Dyfarnwyd cyllid i Breaking the Box i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau cynhwysol a hygyrch yng Nghymru sy’n hyderus ac yn cefnogi’r gwaith o groesawu artistiaid amrywiol, aelodau criw cefn llwyfan, staff gweinyddol a chynulleidfaoedd.
Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chymorth i egin-weithwyr theatr Byddar, anabl a niwrowahanol, ac mae’n gweithio at ymgorffori rolau ar gyfer pobl greadigol Fyddar, anabl a niwrowahanol mewn canolfannau perfformio yng Nghymru yn y dyfodol.
Fel rhan o'r prosiect mae Pobl Greadigol ar Drothwy Eu Gyrfa sy’n Fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol yn cael eu mentora ac yn cael hyfforddiant a lleoliadau gwaith gyda lleoliadau partner a sefydliadau eraill. Rhoddodd Mary-Jayne Russell de Clifford, y Rheolwr Prosiect, gyflwyniad ar Breaking the Box yn ystod Cynhadledd Creu Cymru 2023.
Drwy sefydlu meincnod i Gymru yn nhermau pa mor bell rydyn ni wedi cyrraedd o ran arferion cynhwysol a mynediad, nod y prosiect hwn yw ail-ddychmygu’r gweithlu creadigol.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd Breaking the Box yn newid hollbwysig ac felly fel rhan o’r prosiect, cafodd Diwrnod Cydrannu ei gynnal a oedd yn darparu gwersi y gall sefydliadau yn y sector eu rhoi ar waith o fewn eu sefydliadau a’u prosesau recriwtio eu hunain.
Mae’r prosiect wedi derbyn rhagor o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn datblygu'r gwaith ymhellach, ac mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen bellach wedi ymuno â’r rhestr o leoliadau partner.