Bwrsarïau Creu Cymru
Yn ogystal â chynnig hyfforddiant pwrpasol, rydym yn awyddus i helpu aelodau i fynychu gŵyl, perfformiad penodol, cynadleddau a chyrsiau hyfforddi a allai fod yn benodol i’w rôl neu i’w sefydliad. Mae gennym 8 bwrsari hyfforddi a datblygu ar gael i gyfrannu tuag at fynychu digwyddiad o’ch dewis chi.
£40 y bwrsari.
Un bwrsari ar gyfer un aelod-sefydliad / aelod unigol
Gofynnwn i chi ysgrifennu ychydig eiriau am eich taith ac adrodd yn ôl am unrhyw wybodaeth berthnasol yn un o’n cyfarfodydd aelodau.
I ymgeisio, anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com gyda’ch cais. Mae’r cyfleoedd yma ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Edrychwch ar ein bwrsarïau datblygiad proffesiynol newydd - gwnewch gais nawr.