Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau ar-lein amser cinio o’r enw Caffis Diwylliant. Bydd themâu’r sgyrsiau’n troi o gwmpas prif bwyntiau’r Contract Diwylliannol.
Hyrwyddo iechyd - 2 Medi
Amrywiaeth yn y Gweithlu a’r Bwrdd – 9 Medi
Cyflog Teg – 23 Medi
Cynnydd wrth Leihau Ôl Troed Carbon – 30 Medi
Y potensial i dyfu – 7 Hydref
Bydd pob Caffi Diwylliant yn cynnwys arbenigwyr ar y testun a’r rheini sydd â phrofiad yn y meysydd dan sylw ac yn para awr (12-1yp). Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda’r siaradwyr fel rhan o’r digwyddiadau.
Ymhlith y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth y Theatrau, Chwarae Teg, TUC Cymru ac Inc Arts, Backstage Niche, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Jerwood Arts, Stonewall Cymru ynghyd â mwy o enwau i dod yn fuan
Ein nod yw dwyn at ei gilydd sefydliadau ac unigolion i wrando, dysgu, rhwydweithio a mynd ag enghreifftiau o’r arferion gorau gyda nhw i’w defnyddio wrth greu a chyflwyno eu Contractau Diwylliannol hwythau.
Bydd isdeitlau a chyfieithu Cymraeg ar gael ym mhob Caffi. Os oes gynnoch chi unrhyw anghenion mynediad eraill, cysylltwch.
Mae’r Caffis Diwylliant yn agored i aelodau Creu Cymru a’r rheini nad ydynt yn aelodau.
Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o'u Cronfa Cydrannu.