Heddiw, mae Creu Cymru wedi cyhoeddi y bydd David Wilson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Creu Cymru. Bydd David yn cymryd lle’r Cadeirydd presennol, Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, ar ôl pedair blynedd. Bydd Liam yn aros ar y Bwrdd fel Ymddiriedolwr am o leiaf 12 mis arall.
Yn ystod cyfnod Liam fel Cadeirydd, mae’r sefydliad wedi ymdopi â phandemig Covid-19, gan gefnogi ymdrechion y sector i gynnal swyddi a sicrhau cyllid brys yng Nghymru; wedi cyflwyno model cyflawni newydd drwy ehangu’r aelodaeth i gynnwys cwmnïau ac unigolion cynhyrchu gan arwain at dwf o 75% yn yr aelodaeth; wedi parhau i reoli Cynllun Hynt, y cynllun mynediad cenedlaethol gyda dros 40 o leoliadau a 30,000 o ddeiliaid cardiau, sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr. Liam a benododd y Cyfarwyddwr presennol, Lousie Miles-Payne, a chefnogodd yr Adolygiad Buddsoddi llwyddiannus diweddar, sydd wedi gweld Creu Cymru yn dod yn un o gleientiaid Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cael ei ariannu am sawl blwyddyn.
Dywedodd Liam Evans-Ford, "Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd Creu Cymru am y pedair blynedd diwethaf, yn dilyn tair blynedd fel aelod o’r Bwrdd. Mae’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru dan fygythiad difrifol, ac mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwerthfawrogi, ac yn ariannu, y gwaith anhygoel a wneir ledled y wlad gan ein haelodau. Rwy’n gwbl hyderus y bydd Louise, gyda chefnogaeth David fel Cadeirydd, yn gwneud newid cadarnhaol ar ran ein haelodau, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi fel ymddiriedolwr, gan roi amser a lle iddynt ar gyfer egni a brwdfrydedd newydd dros y set nesaf o heriau."
Bydd David Wilson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Creu Cymru.
Mae David wedi bod yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ers 2023, ar ôl arwain nifer o sefydliadau diwylliannol ac artistig blaenllaw. Mae David yn Gyd-Gyfarwyddwr Porter’s Cardiff, bar a gofod cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau, ac mae’n Gymrawd gyda Rhaglen Arweinyddiaeth Clore a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Mae ei rolau eraill wedi cynnwys Cyfarwyddwr Theatr yn Theatr Brycheiniog, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Actorsworkshop, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Darlithydd Gwadd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Moving Being Limited a Gweinyddwr yng Ngŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd.
Dywedodd David Wilson: "Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r sector ymhellach, gan helpu’r aelodau i sicrhau dyfodol gwell i’r celfyddydau perfformio yng Nghymru a gweithio gyda’r tîm gwych a’r Bwrdd yn Creu Cymru. Mae’n her a hanner dilyn arweiniad ysbrydoledig Liam gyda’r hyn rydyn ni’n gwybod fydd yn gyfnod heriol o’n blaenau, ond rwy’n credu yng ngwaith yr aelodau, gan gyflawni ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd ac artistiaid."
Sefydliad aelodaeth ar gyfer theatrau, cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru yw Creu Cymru. Mae’r aelodaeth yn ffurfio rhwydwaith cydweithredol; gyda llais cryfach ac unedig sy’n cyflwyno i gyrff llywodraethu cyhoeddus ac yn eiriol arnynt, gan sicrhau cynrychiolaeth hanfodol i’r diwydiant a dylanwadu ar newid cadarnhaol. Yn ddiweddar, mae wedi dod yn sefydliad newydd sy’n cael ei ariannu am sawl blwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio i greu sefydliad mwy cynaliadwy, gan weithio gyda mwy o bobl, a chael mwy o effaith ar gynulleidfaoedd ledled Cymru.
Mae Creu Cymru hefyd wedi croesawu tri aelod newydd o’r Bwrdd, Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr Sherman; Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg a Sara Beer, Cyfarwyddwr Newid Craidd.
Dywedodd Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr, Creu Cymru: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth a chyfraniad Liam i Creu Cymru yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Mae’n gadael y swydd gyda’r sefydliad yn gryfach nag y bu ers blynyddoedd lawer. Mae David yn eiriolwr brwd dros ein gwaith a’r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein haelodau ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gydag ef yn ei rôl newydd."