Rydym yn poeni’n arw bod Cyngor Sir Caerffili wedi cyhoeddi cynigion i roi’r gorau i dalu cymhorthdal ac felly cau Sefydliad y Glowyr Coed-duon o ddiwedd mis Rhagfyr 2024 ymlaen. Mae mwy a mwy o awdurdodau lleol yn tynnu’n ôl o ddarpariaeth a gwariant diwylliannol ac mae hyn yn peri pryder.
Bydd cymunedau a chynulleidfaoedd heb fynediad at y celfyddydau na diwylliant ar garreg eu drws. Rydym yn gwybod bod Sefydliad y Glowyr Coed-duon yn cyflwyno dros 160 o berfformiadau ac yn croesawu cynulleidfa o 32,275 bob blwyddyn. Mae’n gartref i lawer o gynyrchiadau cymunedol ac amatur ac, yn bwysig iawn, mae’n cynnig theatr ieuenctid weithredol ar adeg pan mae mynediad pobl ifanc hefyd yn heriol.
Mae’r lleoliad yn cefnogi 25 o bobl yn uniongyrchol (cymysgedd o staff mewnol a gweithwyr llawrydd proffesiynol) ac wrth gwrs mae hefyd yn darparu gwaith i weithlu’r sector drwy dderbyn perfformiadau sy’n teithio.
Rydym yn gwybod i ba raddau mae’r sector creadigol yn dibynnu ar leoliadau lleol am fywoliaeth ac i ba raddau mae cynulleidfaoedd lleol yn caru eu lleoliadau. Mae theatrau lleol yn gwneud cyfraniad hanfodol at economi, iechyd a llesiant, ac enw da rhyngwladol ein cenedl. Lleoliadau fel Sefydliad y Glowyr Coed-duon yw calon cymunedau lleol, gan ddarparu ysbrydoliaeth, adloniant a gofod creadigol i gynifer o bobl. Mae theatr yn cefnogi llesiant unigolion ac yn darparu swyddi i bobl leol fedrus. Mae’n rhoi gwerth i’r gymuned yn gyffredinol drwy adfywio’r stryd fawr, economi ffyniannus yn ystod y nos a thrwy hybu cydlyniant cymdeithasol. Mae CCC wedi cyhoeddi Asesiad Effaith Economaidd manwl ar gyfer y sector ymhellach, ac yn anffodus mae’n ymddangos y gallai hyn fod yn rhy hwyr i Sefydliad y Glowyr Coed-duon, ond gobeithiwn nad dyma fydd yr achos.
Mae ein hamgylchedd cyllido gydag awdurdodau lleol yn lleihau gwariant diwylliannol, toriadau diweddar CCC a her gyllidebol Llywodraeth Cymru yn ddychrynllyd. Bydd Creu Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod y Cyngor, CCC a Llywodraeth Cymru yn deall effaith gronnol eu penderfyniadau, a byddwn yn erfyn ar yr awdurdod lleol i ailystyried.