Datganiad ynghylch Toriadau i Gyllideb Creu Cymru
Mae Creu Cymru yn mynegi pryder dwys ynghylch y toriad arfaethedig o 10% i Gyngor Celfyddydau Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn galw ar frys am roi terfyn ar y gostyngiad mewn buddsoddiad cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru.
Mae’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru yn darparu 80,000 o swyddi (mae’r sector cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau gweledol yn cyflogi dros 7,000 o bobl ledled Cymru), gyda throsiant blynyddol o tua £4 biliwn. Maent yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n hiechyd a’n lles, i’r economi genedlaethol ac i’n henw da yn rhyngwladol. Mae’r elw ar fuddsoddiad yn y sector diwylliannol, o ran manteision economaidd, cymdeithasol a rhyngwladol, yn llawer mwy na’r lefelau gwariant ar hyn o bryd.
Nid yw'n gwneud synnwyr economaidd i leihau buddsoddiad mewn sector sy'n cynhyrchu £1.40 o wariant ychwanegol ar gyfer economïau lleol am bob £1 sy’n cael ei gwario ar docyn theatr, gan ddod i gyfanswm o £1.94bn y flwyddyn o werth ychwanegol i economïau lleol gan gynulleidfaoedd theatr.
O’i gymharu â dechrau’r degawd, roedd cyllid y Llywodraeth i Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2020 21% yn is na’r buddsoddiad yn 2009/10.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu ei hymrwymiad i ddiwylliant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a pharhau i gefnogi’r sector yn dda, fel y gwnaeth mewn ymateb i effaith COVID-19.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o anodd i weithwyr llawrydd (sy’n gallu cyfrif am hyd at 70% o’n gweithlu), ac i sefydliadau - wrth i ni barhau i adfer yn sgil y pandemig, a chyda’r costau byw, costau ynni, tanariannu tymor hir (gan gynnwys gostyngiad sylweddol gan awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf), a’r canlyniadau yn dilyn yr Adolygiad Buddsoddi ochr yn ochr â seilwaith sy’n dirywio - i gyd yn cyfrannu at gyd-destun heriol iawn.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ystyried oriau agor byrrach a chynnal llai o weithgareddau anfasnachol.
Dywedodd Michelle Perez, Rheolwr Cyffredinol Theatr Iolo “Byddai toriad o 10% yn cael effaith sylweddol ar Theatr Iolo; byddai’n gyfystyr â diswyddo un aelod o staff o’n tîm craidd bychan o 5 o bobl. Neu byddai’n golygu y byddai’n rhaid torri o leiaf un o’n sioeau teithiol stiwdio bob blwyddyn. Byddai’r gostyngiad hwn yn ein rhaglen yn golygu cyrraedd llai a llai o blant ledled Cymru, gyda gweithgareddau diwylliannol a theatr byw sy’n cynnwys y plant sy’n byw mewn ardaloedd lle mae llawer llai o fuddsoddiad neu sydd dan anfantais mewn rhyw ffordd.
Dywedodd David Wilson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth “Yn dilyn canlyniad segur o ran cyllid yn sgil yr adolygiad buddsoddi, roeddem eisoes yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith y toriadau mewn termau real o ganlyniad i hynny, felly mae’r newyddion am y toriad pellach hwn yn ddigalon iawn i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac i fywyd diwylliannol y canolbarth. Os byddwn yn cael gostyngiad o (10%), bydd yn mynd â ni’n ôl at lefel y cymorth ariannol a gawsom yn (2007)”.
Dywed Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg:
“Roedd ein cynnig ariannu gwreiddiol eisoes yn doriad mewn termau go iawn, mae toriad o 10% i’n cynnig ariannu yn doriad o 40% mewn gwirionedd a bydd yn cael effaith ddinistriol ar ein gwaith. Byddai colli tua £32K arall yn golygu y byddai angen cwtogi ar ein darpariaeth i bobl ifanc, ein cynyrchiadau Cymraeg neu ein cynyrchiadau teithiol. Fel cwmni cynhyrchu bach nid oes gennym yr adnoddau mewnol i fynd ar ôl arian ychwanegol; os na allwn ddod o hyd i’r arian yna bydd yn rhaid i’r Bwrdd a’r Uwch Reolwyr wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i barhau. Mewn gwlad sy’n gwerthfawrogi’r celfyddydau a’r cyfraniad y mae’n ei wneud i genedlaethau’r dyfodol, at ei llesiant a’r iaith Gymraeg, bydd toriadau pellach yn niweidiol i gyflawni ei nodau”.
Mae recriwtio wedi’i rewi’n barod mewn nifer o sefydliadau. Ar draws y sector, gallem weld unrhyw beth o 3-10% o staff cyflogedig yn colli swyddi ac effaith ddilynol hynny ar y gweithlu llawrydd.
Mae’r sector diwylliant wedi bod yn dirywio’n gyson ers dros ddegawd oherwydd yr effaith a gafwyd gan gyllid segur. Drwy gymryd camau pendant ar wariant a buddsoddiad diwylliannol yn y gyllideb ar gyfer 2024-25, byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei adferiad hirdymor, yn sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd diwylliannol ac yn datgloi manteision enfawr i gymdeithas ac economi Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb flynyddol o £21 biliwn. Derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru £33.3 miliwn yn 2023/24, gostyngiad o 1.5% ers y flwyddyn flaenorol. Mae gwariant diwylliannol fel cyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru yn cynrychioli llai na 0.15% o gyfanswm y gwariant cyffredinol – un o’r isaf yn Ewrop, lle mae’r cyfartaledd yn 1.5% gyda rhai’n cyrraedd 2.5%.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i gydweithio â llywodraeth y DU i sicrhau gostyngiadau treth diwylliannol, ac i gefnogi’r sector i gyflwyno’r achos dros eu hymestyn yn barhaol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gydnabod gwerth ac effeithiau’r sector diwylliant, bod gan y sector weithlu sydd wedi bod yn wynebu lefelau cyflog sefydlog ac isel yn gyson a gweithlu llawrydd sy’n arbennig o ansefydlog ac agored i niwed, ac i gydweithio i ddarparu atebion i sicrhau dyfodol cynaliadwy, fel ymrwymiad i ddim rhagor o doriadau ac i weithio gyda’r sector i ddod o hyd i atebion sy’n diwallu anghenion y sector a darparu profiadau ystyrlon a newid bywydau pobl yng Nghymru ar yr un pryd.