Image of people stood around talking and smiling
Rhaglen Cyfnewid Staff Swits

Archwilio. Dysgu. Tyfu.
Rhaglen Cyfnewid Staff Swits yw eich cyfle i ehangu eich sgiliau, adeiladu eich rhwydwaith, ac edrych o’r newydd ar sector y celfyddydau yng Nghymru.

Beth yw’r rhaglen Swits?
Mae Swits yn rhaglen gyfnewid datblygiad proffesiynol ar gyfer staff ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio mewn rolau technegol, gweinyddol, neu artistig yn y sefydliadau sy’n aelodau. Os oes gennych lai na 5 mlynedd o brofiad mewn theatr neu gwmni cynhyrchu, yna mae hyn i chi.

P’un a ydych yn weinyddwr sy’n chwilfrydig ynglŷn â rhaglennu, neu’n ddechreuwr newydd sy’n awyddus i weld sut mae pobl eraill yn eich rôl chi’n gweithredu, mae Swits yn eich helpu i gamu i fyd sefydliad arall, cael profiad ymarferol, a dysgu mewn sefyllfa go iawn.

Pam Cymryd Rhan?

  • Dysgu gan gymheiriaid
  • Hyfforddiant yn y gwaith
  • Datblygu sgiliau
  • Gwydnwch y sector a llesiant staff

Byddwch yn cael dealltwriaeth ddyfnach o’r celfyddydau yng Nghymru tra’n cryfhau eich llwybr gyrfaol. Mae hefyd yn ffordd bwerus o gysylltu â phobl eraill, yn enwedig wrth i sefydliadau ailadeiladu ar ôl y pandemig a’r heriau ariannu.

Beth Fyddwch chi’n ei Gael
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn treulio 3 diwrnod gyda sefydliad partner ac yn derbyn:

  • cyfraniad teithio hyd at £150
  • cyfraniad llety hyd at £250
  • £15 y diwrnod tuag at gostau dyddiol
  • Lleoliad yn seiliedig ar y 3 sefydliad gorau a ddewiswyd gennych chi

Byddwch yn gwneud eich trefniadau teithio a llety eich hun, a thelir unrhyw gostau ychwanegol gan eich cyflogwr.

Pwy All Wneud Cais?
Os ydych yn:

  • Gweithio mewn sefydliad sy’n aelod
  • Mewn swydd yn gynnar yn eich gyrfa (llai na 5 mlynedd o brofiad)
  • Yn angerddol ynglŷn â datblygu eich sgiliau mewn amgylchedd newydd

…byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Sut i Wneud Cais
Mae’n hawdd gwneud cais! Yn syml iawn:

Telerau ac Amodau 
Mae pedwar cyfle yn y flwyddyn gyntaf. Dyrennir cyfleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, cyn belled eich bod yn bodloni’r gofynion a’n bod ninnau’n gallu bodloni eich cais. Un cyfle i bob sefydliad sy’n aelod. 

Rydym hefyd yn gofyn i gyfranogwyr ysgrifennu blog / tystlythyr byr am eich profiad er mwyn i ni allu ei ddefnyddio ar wefan Creu Cymru. 

Gyda’n Gilydd, Rydym yn Adeiladu Sector Cryfach
Mae’r Rhaglen Swits yn ymwneud â mwy na datblygiad personol —mae’n ymwneud â chreu gweithlu gwydn, amrywiol, a llewyrchus yn y celfyddydau ledled Cymru. Gadewch i ni dyfu gyda’n gilydd.