2 women and 1 man standing
Prosiect Torri'r Bocs yn camu i gyfnod newydd yn ei genhadaeth i sicrhau bod lleoliadau celfyddydol yn fwy cynhwysol

Prosiect Torri'r Bocs yn camu i gyfnod newydd yn ei genhadaeth i sicrhau bod lleoliadau celfyddydol yn fwy cynhwysol

Mae'r gwaith wedi dechrau dan arweiniad Cwmni Theatr Taking Flight ar gam nesaf Torri'r Bocs - prosiect partneriaeth a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda'r partneriaid Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatrau Sir Gâr, Theatrau RhCT a Pontio, gyda chefnogaeth cynllun mynediad cenedlaethol Cymru Hynt a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru. 

Mae Torri'r Bocs yn datblygu rhwydwaith o leoliadau cynhwysol a hygyrch yng Nghymru, lleoliadau sy'n derbyn cefnogaeth er mwyn iddynt allu croesawu yn hyderus artistiaid amrywiol, criw cefn llwyfan a gweinyddwyr yn ogystal â chynulleidfaoedd. Mae'r prosiect yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i'r gweithlu theatr Byddar, niwroamrywiol ac anabl sy'n dod i'r amlwg, ac yn adeiladu rolau yn y dyfodol ar gyfer pobl greadigol o'r fath o fewn lleoliadau Cymru, ac, o ganlyniad yn ail-ddychmygu'r gweithlu creadigol. Bydd profiadau a dysg y prosiect hefyd yn cael ei rhannu ar draws y sector yng Nghymru a thu hwnt.

Dechreuodd y cam nesaf yn ôl yng Ngwanwyn 2025, gan ddod â Provocateurs Lleoliad a Mynediad i leoliadau i weithredu fel cyfaill beirniadol ar draws eu meysydd gwaith, gan helpu i wella lefelau mynediad yn sylweddol y tu ôl yn ogystal ag o flaen y llwyfan, ac i fod yn ystyriaeth gyfannol gan y sefydliadau celf. Cynlluniwyd rôl y provocateur gyda phrofiad byw yn greiddiol iddi; er mwyn iddynt weithio i roi llais i fynediad ar draws pob adran yn eu sefydliad ac yng nghalon y sefydliadau. Dechreuodd Emily Rose Corby, Demelza Monk a Rhys Slade-Jones eu rolau ym mis Mai eleni ac aethant ati ar unwaith.

Emily Rose Corby – Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Mae Emily Rose yn artist Byddar ac yn ymgynghorydd mynediad sydd yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n hyrwyddo mynediad creadigol fel Tywysydd Teithiau Iaith Arwyddion Prydain, Ymgynghorydd Iaith Arwyddion Prydain, Hwylusydd Gweithdai Creadigol ac Ymgynghorydd Hygyrchedd Gwyliau/Digwyddiadau. Mae Emily hefyd yn rhedeg Gŵyl Geltaidd y Byddar yng Ngheredigion a gynhelir yn ystod penwythnos olaf mis Awst. 

Mae Emily wedi bod yn gweithio gydag Awen i archwilio'r broses o archebu a hefyd profiad cwsmeriaid o fewn lleoliadau, er mwyn cael gwared ar unrhyw rwystrau cudd presennol i fynediad, gwella cynhwysiant ar draws gweithdrefnau recriwtio ac AD, yn ogystal â chefnogi darpariaeth hygyrch rhaglenni'r lleoliadau gan gynnwys gweithio gyda Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a'r cwmni pantomeim newydd Scott Ritchie Productions.

“Mae Awen yn sefydliad mawr sydd wedi cymryd camau pwysig yn barod wrth flaenoriaethu mynediad o fewn eu gwaith,” meddai Emily, “ac maen nhw wedi croesawu mewnwelediadau pellach yn enwedig o ran marchnata hygyrch a datblygu cysylltiadau â chymunedau Byddar lleol, lle rydym wedi gallu cychwyn gyda Chlwb Theatr Byddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r gobaith am wneud rhywbeth tebyg yn yr ardaloedd eraill lle mae gan Awen leoliadau. Mae'n gyffrous gweld y maes gwaith hwn yn tyfu.”</em)

Demelza Monk - Theatrau Sir Gâr

Mae Demelza yn wneuthurwr theatr niwroamrywiol, amlddisgyblaethol sy'n byw ym Mhontypridd. Mae eu gwaith yn amrywio o reoli llwyfan, creu pypedau, galluogaeth creadigol a mwy. Maent yn un o sylfaenwyr Theatr Same Hat, casgliad o wneuthurwyr theatr sydd â phrofiad byw o rwystrau mynediad ac sy'n rhannu'r nod o newid y ffyrdd sefydledig o weithio. 

Mae Demelza wedi bod yn gweithio gyda Theatrau Sir Gâr i adolygu a gwella eu straeon gweledol a'u bagiau synhwyraidd ar gyfer cynulleidfaoedd, ac i lansio rhaglen o Nosweithiau Theatr Iaith Arwyddion Prydain. Maent hefyd wedi bod yn gweithio ar wella hygyrchedd eu gwefannau a'u prosesau archebu, yn ogystal â threfnu rhaglenni hyfforddi ar gyfer staff.

"Mae wedi bod yn wirioneddol werth chweil gweithio gyda Theatrau Sir Gar ar y prosiect hyd yn hyn,”,/em> dywedodd Demelza, “'Dyn ni eisoes wedi cymryd camau mawr yn gwella mynediad ar draws y tri lleoliad a hefyd wedi ffurfio cysylltiadau â grwpiau lleol fel Canolfan y Byddar Llanelli, a dw i'n gobeithio y bydd y math yna o berthynas yn parhau ymhell ar ôl i'r prosiect yma ddod i ben. Mae brwdfrydedd dros fynediad go iawn o fewn y sefydliad, a dw i’n gyffrous i weld faint mwy y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.’

Rhys Slade-Jones - Theatrau RhCT

Yn byw yn Nhreorci, mae Rhys yn artist rhyngddisgyblaethol, yn wneuthurwr theatr, awdur a pherfformiwr sydd wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol, y BBC ac S4C ymhlith eraill, ac mae’n aelod sefydlol o’r cymundod berfformio queer Cymreig CWM RAG.

Mae Rhys wedi bod yn gweithio gyda Theatrau RhCT i sefydlu rhwydweithiau a phrosesau cefnogol a hygyrch ar gyfer artistiaid creadigol lleol gan gynnwys creu Nosweithiau Scratch rheolaidd gyda darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain fel bod artistiaid yn gallu datblygu gwaith o fewn mannau diogel, yn ogystal ag archwilio’r angen am ymweliadau agored i ymarferion sy'n rhoi'r cyfle i artistiaid arsylwi sut i redeg mannau hygyrch.

“Mae gan RhCT gannoedd o bobl creadigol o fewn ei ffiniau, ac mae llawer ohonynt yn uniaethu yn arbennig yn niwroamrywiol. Mae yna gyfoeth o empathi a'r uchelgais i greu gwaith sydd mor eang â phosibl yn ei apêl, ac sy'n sicrhau bod rhwystrau i wneuthurwyr a chynulleidfaoedd yn cael eu dileu” meddai Rhys, “Mae cefnogaeth barhaus Theatr RhCT i artistiaid lleol, ynghyd â'r gwersi a'r dysg o rwydwaith ehangach Breaking the Box yn golygu bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer creu gwaith newydd, hygyrch a chyffrous o bob cwr o RhCT.”

Hefyd, o'r hydref 2025, bydd y prosiect yn gweld datblygiad arall yn yr edefyn Creadigwyr Gyrfa Gynnar; bydd y datblygiad yma yn darparu lleoliadau, cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi i greadigwyr Byddar, anabl a niwroamrywiol ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y celfyddydau yng Nghymru.

Mae gwaith prosiect Torri'r Blwch gyda'r Provocateurs Mynediad yn parhau tan fis Ionawr 2026 pan fydd canfyddiadau pellach yn cael eu rhannu.