
Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae ceisiadau bellach wedi cau. Os oesn ddiddordeb mewn cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno, cysylltwch â yvonne@creucymru.com neu cadwch lygad ar y wefan.
Ymunwch â ni ar gyfer Cymysgu a Chyflwyno – Digwyddiad Deinamig lle bydd Rhaglenwyr a Gwneuthurwyr Theatr yn dod ynghyd.
Rydyn ni'n falch iawn o'ch gwahodd i Cymysgu a Chyflwyno – digwyddiad bywiog a phrysur lle bydd gwneuthurwyr theatr, cynhyrchwyr a rhaglenwyr lleoliadau yn dod ynghyd i sbarduno syniadau, meithrin cysylltiadau, a siapio dyfodol theatr yng Nghymru.
Beth i'w ddisgwyl:
· Cyflwyniadau 5 munud gan wneuthurwyr theatr
· Cyflwyniadau 2-5 munud gan leoliadau
· Ymdeimlad agored a chydweithredol
P'un a ydych chi'n dod i’r digwyddiad i gyflwyno syniad neu beidio, mae hwn yn argoeli i fod yn lle gwerthfawr i ddarganfod gwaith newydd, cwrdd â phartneriaid posibl, ac archwilio posibiliadau creadigol.
Cewch glywed gan: Eisteddfod Genedlaethol Cymru • Theatr Spectacle Ltd • YMa • Theatr Dreigiau Hapus • Theatr Clwyd • Mari Luz Cervantes • Kitsch & Sync Collective • Familia Theatre
Byddwn hefyd yn sbarduno sgwrs am sut y gallwn ni fynd ati’n well i gefnogi arferion cyflwyno ac ymchwil a datblygu yn ein sector. Gan adeiladu ar argymhellion yr Adolygiad o Theatr Saesneg, byddwn yn edrych ar yr hyn sydd ei angen i symud ymlaen – adnoddau, cefnogaeth a chyd-ddealltwriaeth.
Gadewch i ni ddod at ein gilydd i gymysgu, i gyflwyno syniadau, ac i adeiladu dyfodol theatr.
Bydd ein digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar-lein, ond rydyn ni’n gobeithio cynnal hyn wyneb yn wyneb yn y dyfodol os oes digon o ddiddordeb.
Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y diwrnod.
Cofrestrwch yma i fynychu: