Exterior image of Y Ffwrnes, Llanelli
Rheolwr Datblygu Theatrau - Theatrau Sir Gâr
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:
13 Mai

Gwybodaeth am y swydd :

Parhaol Amser Llawn
Cyflog:  £49,764 - £53,829
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:  £25.79-£27.90
Oriau Contract:  37

Ymunwch â'n Tîm fel Rheolwr Datblygu Theatrau

Ydych chi'n angerddol am y celfyddydau perfformio ac yn awyddus i arwain tîm dynamig a chreadigol? Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am Reolwr Datblygu Theatrau profiadol ac ymroddedig i helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau theatr a gwella ein heffaith ddiwylliannol ar y gymuned.

Ynglŷn â'r rôl

Fel Rheolwr Datblygu Theatrau, byddwch yn arwain ac yn rheoli Theatrau Sir Gâr, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn un sydd o safon, yn llwyddiannus yn fasnachol ac yn canolbwyntio ar y cwsmer, gan hybu cynulleidfaoedd a gweithgarwch trwy raglen ddychmygus a chytbwys. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r rhanddeiliaid presennol a darpar randdeiliaid i ddatblygu'r gwasanaeth a'i adnoddau.

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • Arwain a rheoli staff, cyllidebau, adeiladau, cynulleidfaoedd, a rhaglenni.
  • Sicrhau safonau uchel o ran profiad yr ymwelwyr a gofal cwsmeriaid.
  • Datblygu a chynnal perthynas gynhyrchiol â rhanddeiliaid fel ffordd o sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu.
  • Creu amgylchedd sy'n grymuso'r staff.
  • Cynllunio busnes, perfformiad ariannol a llunio adroddiadau cywir.
  • Cydymffurfio â pholisïau'r awdurdod, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, a deddfwriaeth drwyddedu.

Byddwch yn arweinydd creadigol a brwdfrydig gyda phrofiad sylweddol ym maes theatrau a'r celfyddydau perfformio ac yn gallu rheoli a threfnu busnes y theatrau. Byddwch yn weithiwr proffesiynol hyblyg sy'n croesawu newidiadau ac sy'n meddu ar y gallu i ymaddasu wrth weithio, a hynny mewn ffordd bwyllog. Byddai meddu ar brofiad o ddarparu gwasanaeth creadigol, yn ogystal â chefndir yn y sector theatrau a'r gwasanaeth cyhoeddus yn benodol, yn fantais bendant.

Bydd yn ofynnol i chi weithio'n hyblyg, gan gynnwys gyda'r nos, ar benwythnosau, ac ar Wyliau Banc a byddwch yn meddu ar y gallu i deithio a mabwysiadu arferion gwaith ystwyth. Oriau gwaith y swydd yw 37 awr yr wythnos.

I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â janedavies@sirgar.gov.uk neu .

Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau theatr a'u harwain i uchelfannau newydd, gwnewch gais nawr!

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad :  

23 Mai 2025

Lefel sgiliau Cymraeg - siarad:  

Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys: 

  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu.  Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. 

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work. Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio’ i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.