Word in a block - self care isn't selfich
Sesiynau lles - Hwb i'ch Gwytnwch
Digwyddiad: digwyddiadau
Iau, 05/06/2025 - 10:00yb-Iau, 05/06/2025 - 12:00yp
Ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Disgrifiad o'r Cwrs 
Gweithdy 2 awr sy’n rhan o’n cyfres “Hwb” boblogaidd. Mae’r sesiwn hon yn esbonio beth yw Gwytnwch, eich agwedd ato ac yn bwysicaf oll, sut mae rhoi hwb i’ch gwytnwch eich hun. Mae’r gweithdy hwn wedi’i achredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Trosolwg
Bydd y sesiwn yn edrych ar y canlynol:

  • Beth yw gwytnwch
  • Pa adnoddau sydd eu hangen i fod yn wydn
  • Deall yr ymennydd ar adegau heriol
  • Newid ein meddyliau
  • Delio â phryderon
  • Diolchgarwch
  • Tosturi

Canlyniadau
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y mynychwyr yn:

  • Deall beth yw gwytnwch
  • Gwybod pa mor bwysig yw bod yn ddyfeisgar ar adegau heriol
  • Deall sut mae tueddiadau negyddol yn effeithio ar wytnwch
  • Deall sut mae ein meddyliau yn effeithio ar ein gwytnwch
  • Dysgu strategaethau ymarferol i ddelio â phryderon
  • Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd bod yn hunan-dosturiol

Fformat 
Bydd yn cael ei gyflwyno ar-lein

Ar gyfer pwy?
Mae’r cwrs yn agored i bawb - staff sy’n gweithio i sefydliadau sy’n aelodau o Creu Cymru, aelodau llawrydd a’r rheini nad ydynt yn aelodau o Creu Cymru sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Cost 
Mae Creu Cymru yn deall pwysigrwydd llesiant a chefnogi staff sy’n gweithio yn y sector. Byddwn ni’n talu am yr hyfforddiant hwn, felly bydd ar gael am ddim i aelodau ac am £10 yn unig i’r rheini nad ydynt yn aelodau (£20 os ydych chi’n mynd i’r tair sesiwn Hwb i Lesiant).

Anfonwch e-bost at Yvonne i gofrestru ar yvonne@creucymru.com